Mae Aseswyr Ôl-ffitio yn gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau fel cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, cwmnïau ynni a chyfleustodau a chwmnïau ôl-ffitio arbenigol. Mae llawer yn hunangyflogedig neu'n sefydlu eu busnesau eu hunain. Gall y rôl amrywio yn dibynnu ar y sefydliad, ond ym mhob sefydliad mae Aseswyr Ôl-ffitio yn cynnal asesiad o eiddo ac yn darparu’r data angenrheidiol i’r Cydlynydd Ôl-ffitio a / neu’r Dylunydd i wneud penderfyniadau gwybodus am fesurau ôl-ffitio.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
18+ oed a chymhwyster DEA
Hunanastudio Ar-lein
Mae'r 9 modiwl yn cymryd tua 29 awr i'w cwblhau.
Dosbarth undydd dan arweiniad tiwtor ac wedyn asesiad Pwynt Terfyn. Mae'n ofynnol i’r dysgwyr lunio portffolio o dystiolaeth drwy gydol y cwrs, a fydd yn cael ei drafod yn yr Asesiad Pwynt Terfyn.
Mae'r cwrs yn cynnwys naw modiwl sy'n ymdrin â phob agwedd ar asesu ôl-ffitio. Mae pob modiwl yn cynnwys deunyddiau dysgu helaeth, cyflwyniadau arbenigol, astudiaethau achos a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi o theori ac ymarfer.
Modiwlau’r Cwrs
• Modiwl 1 PAS 2035 ac asesiadau ôl-ffitio
• Modiwl 2 Cyd-destun anheddau
• Modiwl 3 Asesu cyflwr annedd a chofnodi unrhyw ddiffygion
• Modiwl 4 Gofynion asesiadau deiliadaeth
• Modiwl 5 Gofynion awyru annedd
• Modiwl 6 Perfformiad ynni annedd
• Modiwl 7 Arwyddocâd annedd
• Modiwl 8 Adroddiadau asesiadau ôl-ffitio
• Modiwl 9 Cyngor ôl-ffitio i gwsmeriaid
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.