Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig (Heb ei awyru) (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
24 Mawrth 2025 — 24 Mawrth 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn ar gyfer peirianwyr plymio a gwresogi sydd eisiau gosod Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig, a bydd yn dangos eu cymhwysedd fel bod modd iddynt naill ai ymuno â Chynllun Unigolion Cymwys sy’n eu galluogi i hunan-ardystio gosodiadau, neu hysbysu’r adran Rheolaeth Adeiladu leol cyn dechrau gwaith.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer Cymru/Lloegr yn cwmpasu Dogfen Gymeradwy G3, Rhan L1 a Rhan P y Rheoliadau Adeiladu.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys pedwar modiwl:

  • Systemau Gydag Awyrell a Heb Awyrell a’u hegwyddorion gweithreu
  • Dylunio a gosod
  • Cynnal a chadw
  • Cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu eraill

Mae’r asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a theori.

Mae’r cwrs cynhwysfawr yn dechrau gyda hyfforddiant dwys yn y pedwar modiwl, ac wedyn cwblhau tri asesiad gan gynnwys un ymarferol. Rhaid i’r ymgeiswyr lwyddo yn y tri asesiad er mwyn sicrhau tystysgrif Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig BPEC a cherdyn cymhwysedd.

Mae’n caniatáu i’r unigolyn/busnes gofrestru gyda chynllun unigolion cymwys sydd yn caniatáu hunan-ardystio gosodiadau systemau storio dŵr poeth heb awyrell.

Os byddwch chi’n dewis peidio ag ymuno â chynllun Unigolion Cymwys, bydd angen i chi hysbysu’r adran Rheolaeth Adeiladu leol.

Gofynion mynediad

  • Nifer o flynyddoedd o brofiad ym maes plymio neu beirianneg gwresogi confensiynol
  • Cymhwyster ffurfiol ar S/NVQ Lefel 3 mewn plymio neu beirianneg gwresogi
  • Yn dilyn cwrs plymio neu beirianneg gwresogi ar hyn o bryd, a fydd yn arwain at gymhwyster ffurfiol fel S/NVQ Lefel 3 mewn plymio neu beirianneg gwresogi

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

24 Mawrth 2025

Dyddiad gorffen

24 Mawrth 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

8 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

RTCC3P05
L3

Cymhwyster

Domestic Hot Water Storage Systems

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE