Fel gweithiwr proffesiynol ardystiedig CompTIA Security+, byddwch yn gallu datblygu’r sgiliau i fod yn gyfrifol am warchod data, rhwydweithiau, adnabod bygythiadau ac ymateb i ddigwyddiadau. Mae'r cwrs hwn wedi’i deilwra’n berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol TG sy’n dymuno datblygu at swyddi seiberddiogelwch, neu ar gyfer y rheiny sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Mae’r CompTIA CASP+ yn rhaglen e-ddysgu gynhwysfawr sy’n cynnwys gwersi a gweithgaredau ymarferol y gallwch ail-ymweld â hwy mor aml ag y bydd ei angen.
Mae’r rhaglen hon yn gofyn am oddeutu 37 awr, gydag argaeledd hyblyg yn unol â phatrymau gwaith personol.
Bydd gan gynrychiolwyr 6 mis o’r dyddiad ymrestru i gwblhau'r rhaglen. Trefnir dyddiadau cwrs yn uniongyrchol gydag ALS Training unwaith y bydd cyllid wedi cael ei gymeradwyo.
Yn ystod y cwrs CompTIA Security+ cynhwysfawr, byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o gysyniadau ac arferion diogelwch TG. Dyma beth allwch chi ddisgwyl ei ddysgu:
Maes Llafur Security+
Labordai Ymarferol Ar-lein
Arholiad
Mae’r arholiad CompTIA Security SY0 701 yn rhan annatod o’r broses ardystio CompTIA Security+. Dyma rai manylion allweddol ynglŷn â’r arholiad:
Nodwch fod arholiadau ardystio, polisïau a gweithdrefnau CompTIA yn gallu newid, felly gwiriwch wefan swyddogol CompTIA am y wybodaeth fwyaf diweddar cyn eich arholiad.
Ardystiad CompTIA Network+ a / neu ddwy flynedd o brofiad yn gweithio mewn swydd gweinyddwr diogelwch / systemau.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.