Mae’r dystysgrif hon ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno deall arferion gweithio cynaliadwy ar gyfer rôl benodol. Mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am gynaliadwyedd o fewn eu sefydliadau.
Bwriedir i’r cymhwyster hwn gael ei ddefnyddio mewn diwydiannau ar y tir. Byddai’n arbennig o ddefnyddiol i ddysgwyr sy’n camu yn eu blaen at rôl Swyddog/Cydgysylltydd/Cynghorydd Cynaliadwyedd a’r rhai mewn rolau sy’n gyfrifol am gynllunio ac adolygu cynaliadwyedd mewn busnesau a sefydliadau.
I gyflawni’r dystysgrif hon, bydd y dysgwyr yn mynychu pedwar gweithdy wyneb yn wyneb. Yn ystod y gweithdai hyn, byddant yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd, yr amgylchedd, newid hinsawdd a sero net. Ar ôl pob gweithdy, bydd y dysgwyr yn cael egwyl i lenwi papurau asesu enghreifftiol cyn cymryd rhan yn eu hasesiadau terfynol.
Mae’r cwrs byr hwn gam uwchlaw’r dyfarniad ac mae’n berffaith i sefydliadau sy’n gweithredu/gweithio tuag at System Reoli Amgylcheddol, fel ISO14001.
Mae buddsoddi mewn arferion gweithio cynaliadwy o fudd i’r amgylchedd, ond mae hefyd o fudd i’ch sefydliad. Trwy roi arferion cynaliadwy ar waith, gallwch arbed costau ar adnoddau, gwella delwedd eich brand, a denu rhagor o gwsmeriaid sy’n frwd dros gynaliadwyedd hyd yn oed.
Beth fyddwch yn ei ddysgu?
Dyma gwrs pedwar diwrnod a gyflwynir mewn ystafell ddosbarth. (130 GLH)
Sut y byddwch yn cael eich asesu?
Bydd yr holl asesiadau’n cael eu goruchwylio mewn ystafell ddosbarth. Rhaid i’r dysgwyr basio pob un o’r pedair uned orfodol. Asesiadau ‘llyfr agored’ fydd y rhain a bydd angen oddeutu 6 awr i gwblhau pob asesiad. Y marc pasio ar gyfer pob asesiad yw 60%. Bydd yr asesiad sengl yn cael ei raddio fel Pasio/Methu a dyna fydd y radd gymhwyso gyffredinol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.