Tystysgrif mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol o fewn y Sector Gwallt a Harddwch

L3 Lefel 3
Rhan Amser
9 Medi 2025 — 16 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein Tystysgrif Lefel 3 VTCR mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol (QFC) yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel asesydd galwedigaethol. Wedi ei leoli ar ein campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, cynlluniwyd y cymhwyster ar gyfer dysgwyr 19 oed neu hŷn, a bydd yn eich cefnogi i ddod o hyd i waith fel asesydd galwedigaethol, gan bod yr unedau a gwmpesir trwy gydol y cwrs yn cwmpasu’r holl sgiliau a gwybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer y rôl. Mae hwn yn gymhwyster ymarferol, sy’n anelu at werthuso cymhwysedd galwedigaethol yn yr amgylchedd gwaith, yn ogystal ag asesu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth galwedigaethol mewn amgylcheddau ar wahân i’r gweithle (h.y. gweithdai, ystafelloedd dosbarth neu amgylcheddau hyfforddiant eraill).  

Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.

Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:

  • Gorchudd Wyneb
  • Fisor
  • Ffedogau Plastig
  • Menig Llawfeddygol

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r rhaglen hon yn ymdrin â nifer o unedau gan gynnwys egwyddorion ac ymarferion asesu, ac yn gwerthuso cymhwysedd dysgwyr yn y gweithle, yn ogystal ag asesu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth alwedigaethol o addysg a hyfforddiant. Y cymhwyster hwn yw'r unig dystysgrif Lefel 3 a gynigir gan VTCT mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £79.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00

Ffi Cwrs: £221.00

Gofynion mynediad

Mae'r gofynion mynediad yn cynnwys o leiaf cymhwyster lefel 3 yn un o'r meysydd pwnc canlynol: Trin Gwallt, Harddwch, a Therapïau Cyflenwol. Byddai rhinweddau dymunol yn cynnwys bod yn wybodus yn y maes pwnc, y gallu i ysgrifennu'n effeithiol, a'r gallu i ysgogi eraill.

Addysgu ac Asesu

  • Nid oes unrhyw fanylion asesu wedi'u gosod.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

9 Medi 2025

Dyddiad gorffen

16 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

HBCC3P07
L3

Cymhwyster

Certificate in Assessing Vocational Achievement within the Hair & Beauty Sector

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i'r Dystysgrif Lefel 4 VTCT mewn Arwain Sicrwydd Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu (QCF).

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE