Mae’r cwrs Meistr Scrum hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â chyflwyno cynnyrch gan ddefnyddio’r fframwaith Scrum. Yn arbennig o fuddiol i’r rheiny sy’n gyfrifol am sicrhau’r gorau o Scrum, gan gynnwys Meistri Scrum, rheolwyr, ac aelodau o dîm Scrum.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn - a ddarperir gan yr hyfforddwyr achrededig APMG ac Agile Business Consortium - yn mynd i’r afael â’r egwyddorion a’r ddamcaniaeth sy’n sail i fframwaith Scrum, a swyddogaeth y Meistr Scrum.
Mae Scrum wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu meddalwedd, caledwedd, cerbydau ymreolaethol, ysgolion, llywodraethau, deunyddiau marchnata, rheoli gweithrediad sefydliadau, a bron pob dim rydym yn ei ddefnyddio yn ein bywydau dydd i ddydd, fel unigolion a chymdeithasau.
Mae Meistr Scrum yn gyfrifol am hyrwyddo a chefnogi Scrum - fel y nodwyd yn Y Canllaw Scrum - drwy gynorthwyo pawb i ddeall damcaniaethau, ymarferion, rheolau, a gwerthoedd Scrum.
Cwrs hyfforddiant dau ddiwrnod mewn dosbarth o bell, gydag arholiad aml-ddewis dan oruchwyliaeth i ennill ardystiad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Yn seiliedig ar ymatebion cyfranogwyr Meistr Scrum yn 2022 i arolwg, dyma rai o’r prif ddarganfyddiadau: