Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i ategu'r wybodaeth a enillwyd yn dilyn cyflawni’r Dystysgrif Hanfodion BCS mewn AI ac i baratoi dysgwyr i ymgymryd â’r Dystysgrif Sylfaen BCS mewn arholiad AI. Gan ddefnyddio’r ddysg o’r ddwy raglen.
Ar gyfer pwy mae hyn?
Buddion i Fyfyrwyr
Buddion i Gyflogwyr
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Amserlen Darpariaeth
Sesiwn 1 – 3 Awr
Hunan-Astudiaeth ac Adolygiad - o leiaf 11 awr
Sesiwn 2 Paratoi at Arholiadau ac Arholi - 3 Awr
Tystysgrif Hanfodion BCS mewn Deallusrwydd Artiffisial
Ar ôl cwblhau'r Dystysgrif Hanfodion AI, bydd dysgwyr y mynychu dau weithdy hanner diwrnod a ddarperir naill ai ar-lein drwy Microsoft Teams neu wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Hyfforddiant ALS yn Ocean Park Way, Caerdydd. Yn ogystal, disgwylir i ddysgwyr gyflawni hunan-astudiaeth a sefyll arholiad.
Mae’r rhaglen yn cynnwys:
Manylion arholiad*
*Ar gyfer arholiadau o bell, bydd angen gliniadur ar ddysgwyr gyda chamera rhagosodedig neu we-gamera ar wahân.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.