BCS* Tystysgrif Hanfodion mewn Deallusrwydd Artiffisial (AI) (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Ar gyfer pwy mae hyn?

  • Unigolion gyda diddordeb mewn (neu angen i weithredu) AI mewn sefydliad, yn enwedig y rheiny sy’n gweithio mewn meysydd fel gwyddoniaeth, peirianneg, peirianneg gwybodaeth, cyllid neu wasanaethau TG.
  • Rheolwyr canol ac uwch reolwyr sy’n cynnal neu’n cynnull timau i greu cymwysiadau a gwasanaethau sy’n ddibynnol ar AI, sydd angen deall cyd-destun AI mewn sefydliad diwydiannol.

Buddion i Unigolion

  • Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr: Dim angen unrhyw wybodaeth flaenorol am AI—.
  • Gwybodaeth berthnasol i’r Diwydiant: Yn cynnwys adnoddau, terminoleg a chysyniadau AI allweddol a ddefnyddir mewn cymwysiadau bywyd go iawn.
  • Gwella Gyrfa: Yn agor drysau i swyddi sy’n dod i'r amlwg ym maes AI ac yn gwella sgiliau AI perthnasol i bob swydd.
  • Meithrin Sgiliau ar gyfer y Dyfodol: Yn arfogi dysgwyr gyda dealltwriaeth sylfaenol o effaith AI ar gymdeithas, busnes a thechnoleg.
  • Ymwybyddiaeth Foesegol: Yn adeiladu dealltwriaeth o faterion cyfreithiol, moesegol a llywodraethu ym maes AI.
  • Cymhwysiad Ymarferol: Yn annog adnabyddiaeth o gyfleoedd AI o fewn sefydliadau a phrosiectau.
  • Ardystiad Cydnabyddedig: Wedi’i ddyfarnu gan BCS, y Sefydliad TG Siartredig - yn hybu CV a chredadwyedd proffesiynol.

Buddion i Gyflogwyr

  • Uwchsgilio’r Gweithlu: Yn grymuso staff gyda gwybodaeth AI hanfodol i gefnogi trawsnewidiad digidol.
  • Gwneud Penderfyniadau Gwell: Yn gwella dealltwriaeth o ansawdd data, dysgu peiriant a mewnwelediadau a ysgogir gan AI.
  • Cydymffurfiaeth Foesegol: Yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o lywodraethu AI, rheoli risg a fframweithiau rheoleiddiol.
  • Yn hybu arloesedd: Yn annog archwiliad o awtomeiddio, AI cynhyrchiol a roboteg i weithrediadau prif lif.
  • Yn cefnogi Cynllunio Strategol: Yn helpu timau i ragweld tueddiadau AI y dyfodol ac integreiddio cydweithrediad rhwng bodau dynol a pheiriant.
  • Perthnasedd Traws-Swyddogaethol: Yn werthfawr ar gyfer rolau ar draws y sefydliad, o TG i Gyswllt Cwsmeriaid, o Adnoddau Dynol i Gyllid

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Sesiwn 1 – 3 Awr

  • Hanes a datblygiad AI Mapio datblygiad AI o’i ddyddiau cynnar i’r presennol a mapio’r cerrig milltir allweddol
  • Beth yw AI Diffinio AI, sut mae’n wahanol i ddeallusrwydd dynol, y mathau o AI a’r derminoleg allweddol a ddefnyddir i ddisgrifio elfennau system AI
  • Moeseg AI Pwysigrwydd moeseg yn natblygiad AI a’r defnydd ohono, a’r pryderon moesegol y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy yn y diwydiant AI ac i'r rheiny sy’n defnyddio AI.
  • Cyfraith yn ymwneud ag AI Fframweithiau cyfreithiol y DU sy’n berthnasol i AI, a sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygiad AI a’r defnydd ohono.
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol ac effaith AI Sut mae AI yn cael ei ddefnyddio yn y byd go iawn, adnoddau AI cyffredin a’u cymwysiadau. Effaith defnydd o AI ar y gymdeithas, nawr ac yn y dyfodol. Datblygiadau ym maes AI yn y dyfodol
  • AI a dyfodol y byd gwaith Sut mae AI yn newid y farchnad swyddi yn y DU a sut y bydd yn gwneud hyn yn y dyfodol. Swyddi ym maes datblygiad AI a sut mae sgiliau AI yn gwella cyflogadwyedd. 

Sesiwn 2 – 3 Awr

  • Sut mae peiriannau’n dysgu Archwilio cysyniadau dysgu peiriant, beth ydyw a beth y gall ei wneud. Rhwydweithiau niwtral ac egwyddorion dysgu manwl a'r broses sy’n ysgogi modelau Dysgu Peiriant.
  • Data, systemau gwybodaeth ac AI Sut mae systemau gwybodaeth a data’n berthnasol i AI. Terminoleg allweddol a chysyniadau data y mae angen inni wybod amdanynt, sut y defnyddir data mewn dysgu peiriant ac ym Modelau Iaith Mawr systemau AI cynhyrchiol.
  • Archwilio Ansawdd Data Beth yw pwysigrwydd ansawdd data, ansawdd nodweddion data, y risgiau sy’n gysylltiedig â systemau gwybodaeth a dadansoddi data?

Sesiwn 3 – 3 Awr

  • AI ar waith Enghreifftiau o AI yn y gweithle a sut y defnyddir AI
  • AI a Roboteg Beth yw roboteg a beth yw’r gwahanol fathau o roboteg a ddefnyddir. Sut mae disgyblaethau AI a roboteg yn cyfuno. Datblygiadau ym meysydd roboteg ac AI y dyfodol
  • AI yn eich sefydliad chi Sut y gellir defnyddio AI yn eich sefydliad i wella cynhyrchiant ac awtomeiddio prosesau. Trosolwg o’r dulliau rheoli prosiect cyffredin a ddefnyddir i weithredu datrysiadau AI a llywodraethu sefydliadol da i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio’n briodol.

Hunan-Astudiaeth ac Adolygiad - o leiaf 23 awr

  • Astudiaeth Hunangyfeiriedig  
  • Adolygu cynnwys eich gweithdai, y deunydd cymorth yr ydych wedi ei gael ac ymchwil AI pellach gan ddefnyddio technegau ac adnoddau ar-lein.

Sesiwn 4 Paratoi at Arholiadau ac Arholi - 3 Awr

  • Paratoi at arholiad Treulio amser gyda’ch tiwtor yn adolygu cynnwys y cwrs ac yn paratoi ar gyfer arholiad.
  • Ffug Arholiad Cyfle i baratoi ymhellach drwy gwblhau cyfres o gwestiynau amlddewis fel y rhai y gallech eu gweld yn eich arholiad.
  • Arholiad 30 munud i gwblhau 20 cwestiwn dan amodau arholiad heb fynediad at nodiadau nac adnoddau ar y we.

Dulliau Addysgu ac Asesu

Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu pedwar gweithdy hanner diwrnod, y gellir eu darparu naill ai ar-lein drwy Microsoft Teams neu wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Hyfforddiant ALS yn Ocean Park Way, Caerdydd. Yn ogystal, rhaid i ddysgwyr gyflawni hunan-astudiaeth a sefyll arholiad. 
Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • 3 × Gweithdy gwybodaeth hanner diwrnod dan arweiniad tiwtor (ar-lein neu wyneb yn wyneb)
  • 1 × Gweithdy paratoi at arholiad hanner diwrnod, gydag arholiad aml-ddewis i ddilyn
  • Oddeutu 23 awr o hunan-astudiaeth/adolygu i baratoi ar gyfer yr arholiad

Manylion arholiad*

  • Hyd: 30 munud
  • Fformat: Amlddewis
  • Nifer y cwestiynau: 20
  • Marc pasio: 65% (13/20 o atebion cywir)

*Ar gyfer arholiadau o bell, bydd angen gliniadur ar ddysgwyr gyda chamera rhagosodedig neu we-gamera ar wahân

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

PLAACTP10
L3

Cymhwyster

BCS* Essentials Certificate in Artificial Intelligence (AI) (PLA)