Dysgwch sut i ddefnyddio datrysiadau meddalwedd penodol mewn amgylchedd cwmwl, gan ddefnyddio’r Darparwr Gwasanaeth Cwmwl mwyaf poblogaidd ar y farchnad. Defnyddiwch cronfeydd data, gwefannau a swyddogaethau di-weinydd, i gyd o fewn gwasanaeth talu wrth fynd, y mae modd ei addasu. Ymgymerwch â’r rhaglen hon ar gyfer gweithio tuag at ardystiad Ymarferydd Cwmwl Ardystiedig AWS, gyda'r arholiad Ymarferydd Cwmwl wedi’i gynnwys.
Y cyflog blynyddol cyfartalog ar gyfer Peiriannydd Cwmwl AWS yn y DU yw £52,449 (Glassdoor, 2024). P'un a ydych yn mentro ar daith i newid eich gyrfa’n llwyr, neu’n amrywio’ch sgiliau ar gyfer eich swydd bresennol, y cwrs Ymarferydd Cwmwl Ardystiedig AWS yw’r cam cyntaf ar y daith i ddod yn Arbenigwr Cwmwl AWS.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.