Addysg Gorfforol - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Addysg Gorfforol - Lefel A2 yma yn gwrs un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Gall fod yn bosibl dilyn y cwrs hwn fel myfyriwr rhan amser.

Bydd y cwrs yn galluogi dysgwyr i:

  • ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol o’r ffactorau sy’n greiddiol i weithgaredd corfforol a chwaraeon a defnyddio’r wybodaeth hon i wella perfformiad.
  • deall sut mae’r cyflyrau ffisiolegol a seicolegol yn effeithio ar berfformiad.
  • deall y ffactorau diwylliannol gymdeithasol allweddol sy’n dylanwadu ar gysylltiad pobl â gweithgaredd corfforol a chwaraeon.
  • deall rôl technoleg mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon.
  • mireinio eu gallu i berfformio’n effeithiol mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon drwy ddatblygu sgiliau a thechnegau a dewis a defnyddio tactegau, strategaethau a/neu syniadau cyfansoddiadol.
  • datblygu eu gallu i ddadansoddi a gwerthuso i wella perfformiad.
  • deall y cyfraniad mae gweithgaredd corfforol yn ei wneud i iechyd a ffitrwydd.
  • gwella fel dysgwyr effeithiol ac annibynnol ac fel meddylwyr beirniadol a myfyriol â meddyliau chwilfrydig a holgar.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ceir un asesiad ar ddiwedd y flwyddyn; asesiad ymarferol fel perfformiad, hyfforddwr a swyddog mewn un gamp, cynhyrchu proffil perfformiad personol.

Wedi astudio unedau 1 a 2 ar UG, mae’r cwrs A2 yn cynnwys:

A2 Uned 3: Gwerthuso addysg gorfforol

  • Arholiad ysgrifenedig: 2 awr, 36% o’r cymhwyster

A2 Uned 4: Mireinio perfformiad personol mewn addysg gorfforol

  • Asesiad nad yw’n arholiad; 24% o’r cymhwyster

Asesir perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr, hyfforddwr neu swyddog, hefyd ymchwil archwiliol

Addysgu ac Asesu

  • Arholiad ysgrifenedig ac asesiad ymarferol

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F39
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Addysg Gorfforol

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwyf wrth fy modd yn astudio fy nghwrs yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n gymaint o sbort!  Mae'r annibyniaeth a'r rhyddid rydych chi'n eu cael yn wych A chewch eich tri fel oedolyn. Rwyf wrth fy modd. Yn y coleg, mae'n debyg fy mod wedi mwynhau'r perthnasaoedd clos sydd gennyf gyda fy athrawen.  Rwyf wirioneddol yn teimlo y gallaf droi at fy athrawon gydag unrhyw broblemau yr wyf yn eu cael ac y byddant yn fy helpi i weithio dryddynt."

Gwellian Mellor
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Ffilm, Dawns a Drama

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Rheoli Busnes
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Chwaraeon
  • Teithio a Thwristiaeth

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE