Mae'r cwrs Theori Cerdd yn cynnig fframwaith strwythuredig i gerddorion ddatblygu ystod eang o sgiliau cerddorol ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae’r cwrs hwn hefyd yn addas i ddysgwyr sy’n dymuno astudio am hwyl, ac mae’n helpu i ddatblygu dealltwriaeth, rhoi mwynhad a gwella creadigrwydd. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar Raddau Cerdd 1-5 yr Associated Board of the Royal Schools of Music, ac mae’n cynnwys elfennau creu cerddoriaeth hanfodol. Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn dysgu am nodiant syml a chyfansawdd, arwyddion amser (cyffredin ac afreolaidd), graddfeydd mwyaf a lleiaf, arwyddion cywair, cyfyngau, moddau, cordiau a’u gwrthdroadau, diweddebau a thrawsgyweiriadau. Fel cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol, mae’r graddau hyn yn rhagofyniad ar gyfer astudiaeth ymarferol bellach neu uwch ac maent yn cynnig elfen ddymunol ar y meini prawf mynediad ar gyfer cyrsiau cysylltiedig â cherddoriaeth. Noder: Nid yw'r arholiadau’n orfodol.
Graddau 1-5 yr Associated Board of the Royal Schools of Music. Yn cynnwys meysydd megis hyd nodau, arwyddion amser a chywair, graddfeydd mwyaf a lleiaf, moddau, triawdau a gwrthdroadau cordiau, diweddebau a thrawsgyweiriadau. NODWCH OS GWELWCH YN DDA: Mae Arholiadau Theori Cerdd yn ardystiedig, fodd bynnag, nid ydynt yn orfodol ar gyfer y cwrs hwn.
Dylai fod gan ymgeiswyr sgiliau cerddoriaeth sylfaenol a diddordeb mewn datblygu eu sgiliau ymarferol law yn llaw â’u hastudiaethau.
Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro gyfleusterau cerdd rhagorol. Lleolir y cwrs yn yr ystafell Gerddoriaeth, sydd wedi’i chyfarparu’n llawn gyda'r holl offer y byddwch eu hangen ar gyfer y cwrs. Mae lleoedd arbenigol eraill yn cynnwys ystafelloedd perfformio cerdd a chyfleusterau cynhyrchu cerddoriaeth.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gallai dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus edrych ar ein cyrsiau Rhan Amser eraill, gan gynnwys: Graddau 6-8 a gweithdai perfformio ABRSM. Gallai dysgwyr hefyd ystyried symud ymlaen i’n cyrsiau Llawn Amser sy’n cynnwys: Cyrsiau L2 a L3 Perfformio Cerddoriaeth neu Gynhyrchu Cerddoriaeth.