Cyflwynir ein Diploma BTEC Ffotograffiaeth Lefel 2 gan Media Academy Cymru (MAC), ar yn y Barri. Mae hwn yn gwrs llawn amser sy’n cyflwyno myfyrwyr i feysydd allweddol delwedd symudol a lens; ffotograffiaeth; cyfathrebu graffeg a digidol.
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol y myfyrwyr, prosiect cyfryngau creadigol a sut i ymateb i frîff creadigol.
Byddwch yn cyflawni diploma mewn Sgiliau Celf a Dylunio, cyfwerth â 3 TGAU.
Mae'r rhaglen BTEC Lefel 2 yn cynnwys 4 modiwl sy'n darparu cyfleoedd i ddysgu sut i ddefnyddio camera digidol yn effeithiol, creu gosodiadau golau, defnyddio meddalwedd golygu (Lightroom a Photoshop), ymateb i friffiau proffesiynol a chreu portffolio a safon uchel. Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau meddal, rhyngbersonol sy'n berthnasol i'r diwydiannau creadigol.
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau creadigol unigol ac ar y cyd ym mhob modiwl a datblygu sgiliau mewn cynllunio, gwaith tîm, sgiliau damcaniaethol ac ymarferol.
Bydd y gwaith a gynhyrchir ar gyfer pob modiwl yn sail ar gyfer asesiad. Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn datblygu portffolio cynhwysfawr a fydd yn allweddol ar gyfer eich dilyniant i mewn i addysg neu gyflogaeth yn y dyfodol.
Mae MAC yn ymfalchïo mewn darparu dosbarthiadau mewn amgylchedd hamddenol a chynhwysfawr, a chanolbwyntio ar eich cryfderau a'ch helpu chi i fagu eich hyder. Byddwch yn dysgu mewn grŵp bach sy'n cynnwys rhwng 12 a 16 o fyfyrwyr.
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys 4 modiwl.
Bydd MAC yn darparu'r holl gyfarpar a meddalwedd.
Ni fydd angen profiad blaenorol ac ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, byddai’n ddefnyddiol pe baech eisoes wedi ennill BTEC neu TGAU Lefel 1 mewn Ffotograffiaeth / Celf / Y Cyfryngau Digidol neu pe bai gennych brofiad cyfwerth. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod â’ch tiwtoriaid; felly, gyda’ch gilydd, bydd modd ichi asesu pa mor addas ydych ar gyfer y cwrs. Mae cyfradd bresenoldeb o 90% ac uwch yn hollbwysig ar gyfer cwblhau’r cwrs. Yn arbennig, byddem yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr na fu modd iddynt gael gafael ar gyfleoedd tebyg mewn mannau eraill, myfyrwyr sydd mewn perygl o ddioddef allgáu cymdeithasol, a myfyrwyr nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r cwrs hwn ar gael i bawb rhwng 16-25 oed.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
'Mae tiwtoriaid yn trin myfyrwyr â pharch, mae'r myfyrwyr eraill yn gyfeillgar, mae'r gwaith yn cael ei egluro'n glir, mae'r testunau'n ddiddorol ac rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd.'
'Rwy’n teimlo'n ddiogel yn MAC ac mae pobl yn fy neall.'
Bydd cyfranogwyr yn gallu symud ymlaen at gwrs Lefel 3 mewn pynciau megis: BTEC Lefel 3 mewn Ffotograffiaeth, cynhyrchu Cyfryngau Creadigol; Astudiaethau'r Cyfryngau neu Ddylunio Graffeg UG. Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cymorth i lywio'ch ffordd i addysg bellach, hyfforddiant, prentisiaethau neu gyflogaeth. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant creadigol.