Mae Dylunio a Datblygu Gemau yn Ddiploma BTEC Lefel 2 a ddarperir gan Academi Cyfryngau Cymru (MAC), yng Nghaerdydd.
Mae'r cwrs llawn amser hwn yn cyflwyno myfyrwyr i feysydd allweddol y sector cyfryngau creadigol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol y myfyrwyr; prosiect cyfryngau creadigol a sut i ymateb i frîff creadigol.
Byddwch yn cyflawni diploma mewn Sgiliau Cyfryngau Creadigol, cyfwerth â 3 TGAU.
Ar y rhaglen BTEC Lefel 2 hon byddwch yn dysgu sut i:
Greu gêm i gleient yn y sector gwirfoddol lleol o'i dechrau i'w diwedd, a'i chyhoeddi!
Sgriptio gweledol
Celf 2D
Animeiddiad 2D
Dylunio sain
Dylunio lefel
Sicrhau Ansawdd a phrofi am ddiffygion
Bydd y gwaith a gynhyrchir ar gyfer pob modiwl yn sail ar gyfer asesiad. Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn datblygu portffolio cynhwysfawr a fydd yn allweddol ar gyfer eich dilyniant i mewn i addysg neu gyflogaeth yn y dyfodol.
Mae MAC yn ymfalchïo mewn darparu dosbarthiadau mewn amgylchedd hamddenol a chynhwysfawr, a chanolbwyntio ar eich cryfderau a'ch helpu chi i fagu eich hyder. Byddwch yn dysgu mewn grŵp bach sy'n cynnwys rhwng 12 a 16 o fyfyrwyr. Mae presenoldeb o 90% ac uwch yn allweddol wrth i chi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys 4 modiwl.
Rydym yn darparu’r holl gyfarpar ac yn defnyddio cyfrifiaduron o ansawdd diwydiant.
Ni fydd angen profiad blaenorol ac ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, byddai’n ddefnyddiol pe baech eisoes wedi ennill BTEC Lefel 1 mewn Gemau/TG neu pe bai gennych brofiad cyfwerth. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod â’ch tiwtoriaid; felly, gyda’ch gilydd, bydd modd ichi asesu pa mor addas ydych ar gyfer y cwrs. Ar ôl ichi gael eich derbyn ar y cwrs, cewch eich gwahodd i sesiwn ragflas ac i lenwi proffil myfyriwr. Yn arbennig, byddem yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr na fu modd iddynt gael gafael ar gyfleoedd tebyg mewn mannau eraill, myfyrwyr sydd mewn perygl o ddioddef allgáu cymdeithasol, a myfyrwyr nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r cwrs hwn ar gael i bawb rhwng 16-25 oed.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd cyfranogwyr yn gallu symud ymlaen at gwrs Lefel 3 mewn pynciau megis: Datblygu gemau 'indie'; Dylunio Gemau; Celf ac Animeiddio Cyfrifiadur; Dylunio Graffeg; Dylunio Sain; Datblygu Meddalwedd; E-Sports; Cyfrifiadureg gyda Datblygu Gemau a Chodio; Amlgyfrwng; Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cymorth i lywio'ch ffordd i addysg bellach, hyfforddiant, prentisiaethau neu gyflogaeth.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant creadigol.
'Mae tiwtoriaid yn trin myfyrwyr â pharch, mae'r myfyrwyr eraill yn gyfeillgar, mae'r gwaith yn cael ei egluro'n glir, mae'r testunau'n ddiddorol ac rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd.'
'Rwy’n teimlo'n ddiogel yn MAC ac mae pobl yn fy neall.'