MAC ar Drac - Ffilm a'r Cyfryngau

L1 Lefel 1
Llawn Amser
2 Hydref 2025 — 18 Gorffennaf 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Darparir ein Diploma Lefel 1 mewn Ffilm a'r Cyfryngau gan Media Academy Cymru (MAC). Mae hwn yn gwrs llawn amser sy’n cyflwyno myfyrwyr i feysydd allweddol y sector cyfryngau creadigol. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol y myfyrwyr drwy ddefnyddio offer proffesiynol mewn meysydd megis cyn-gynhyrchu, sgiliau camera (ar gyfer ffotograffiaeth a ffilm), ôl-olygu a dylunio gwefan.

Rydym yn cynnig cyfle i weithio gyda gweithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant, sydd â phrofiad uniongyrchol o greu ffilmiau. Bydd ein tiwtoriaid yn eich cyflwyno i feysydd allweddol y sector ffilm, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar y cwrs rhagarweiniol hwn byddwch yn dysgu hanfodion creu ffilm a'i amrywiaeth o gyfryngau:

• Sgriptio

• Creu Ffilmiau Ffuglen Byr; Animeiddio a Rhaglenni Dogfen

• Hysbysebu

• Golygu ar gyfer Ffilm a Theledu

• Dylunio Sain ar gyfer Ffilm a Theledu

Bydd pob modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol myfyrwyr i greu cynnyrch cyfryngau unigryw megis cerddoriaeth fideo, ffilmiau byr, podlediadau, ffilmiau wedi'u hanimeiddio, arddangosfeydd lluniau a hysbysebion.

Bydd y gwaith a gynhyrchir ar gyfer pob modiwl yn sail ar gyfer asesiad. Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn datblygu portffolio cynhwysfawr a fydd yn allweddol ar gyfer eich dilyniant i mewn i addysg neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Mae MAC yn ymfalchïo mewn darparu dosbarthiadau mewn amgylchedd hamddenol a chynhwysfawr, a chanolbwyntio ar eich cryfderau a'ch helpu chi i fagu eich hyder. Byddwch yn dysgu mewn grŵp bach sy'n cynnwys rhwng 12 a 16 o fyfyrwyr. Mae presenoldeb o 90% ac uwch yn allweddol wrth i chi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Dulliau addysgu ac asesu

Mae'r cwrs yn cynnwys 10 modiwl gwaith cwrs.

Cyfleusterau

Bydd yr holl offer yn cael ei ddarparu gan MAC.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at stiwdio sain ac ystafell werdd.

Gofynion mynediad

Ni fydd angen profiad blaenorol ac ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod â’ch tiwtoriaid; felly, gyda’ch gilydd, bydd modd ichi asesu pa mor addas ydych ar gyfer y cwrs. Ar ôl ichi gael eich derbyn ar y cwrs, byddwch yn cael eich gwahodd i sesiwn ragflas ac i lenwi proffil myfyriwr.

Bydd yr holl gyrsiau MAC yn cael eu cyflwyno mewn atmosffer hamddenol, cynhwysol a llawn anogaeth. Ni fydd y dosbarthiadau’n cynnwys mwy nag 16 o fyfyrwyr. Yn arbennig, byddem yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr na fu modd iddynt gael gafael ar gyfleoedd tebyg mewn mannau eraill, myfyrwyr sydd mewn perygl o ddioddef allgáu cymdeithasol, a myfyrwyr nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r cwrs hwn ar gael i bawb rhwng 16-25 oed.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Hydref 2025

Dyddiad gorffen

18 Gorffennaf 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

19.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PRCCMC01
L1

Cymhwyster

MAC on Track - Film & Media

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

'Mae tiwtoriaid yn trin myfyrwyr â pharch, mae'r myfyrwyr eraill yn gyfeillgar, mae'r gwaith yn cael ei egluro'n glir, mae'r testunau'n ddiddorol ac rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd.

'Rwy’n teimlo'n ddiogel yn MAC ac mae pobl yn fy neall.'

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Bydd cyfranogwyr yn gallu symud ymlaen at gwrs Lefel 2 mewn pynciau megis: Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg; Creu Cynnwys; Ffilm; Marchnata/Hysbysebu; Ffotograffiaeth; Theatr a Chelfyddydau Perfformio.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cymorth i lywio'ch ffordd i addysg bellach, hyfforddiant, prentisiaethau neu gyflogaeth.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant creadigol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE