Diben y cwrs hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol arddulliau neu ymddygiadau arwain sydd i'w canfod yn y gweithle, gan gynnwys dealltwriaeth o'ch ymddygiadau arwain eich hun, a'r effaith y mae'r gwahanol arddulliau hyn yn debygol o'i chael ar ymddygiad aelodau'r tîm.
Mae ail uned y cwrs hwn yn eich galluogi i ddeall yr angen i dimau gael ymdeimlad o weledigaeth a phwrpas sy'n adlewyrchu'r sefydliad, a'r rôl y mae dulliau cyfathrebu effeithiol, ysgogi a datblygiad unigol a thîm yn ei chwarae wrth alluogi hyn.
Dyddiadau
Diwrnod 1: 22.05.2024 (9.30am – 12.30pm)
Diwrnod 2: 29.05.2024 (9.30am – 4.30pm)
Diwrnod 3: 13.06.2024 (9.30am – 4.30pm)
Diwrnod 4: 10.07.2024 (9.30am – 4.30pm)
Diwrnod 5: 30.07.2024 (9.30am – 4.30pm)
Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno mewn dosbarth wyneb yn wyneb. Amlinellir y dyddiadau ac amseroedd cyflwyno yn ‘Ynghylch y Cwrs hwn’, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu ymrwymo i’r dyddiadau/amseroedd hyn cyn gwneud cais.
Mae’r addysgu dan arweiniad tiwtor, a bydd yn cynnwys trafodaethau grŵp, astudiaethau achos a gweithgareddau.
Caiff y cymhwyster hwn ei asesu drwy aseiniad ysgrifenedig ar gyfer pob uned. Byddwch yn cael cymorth llawn i ddeall briff yr aseiniad, canllawiau mewn perthynas ag ysgrifennu aseiniadau a byddwch hefyd yn cael cymorth tiwtor un-i-un.
Byddwch yn barod i ymgymryd â gwaith astudio ychwanegol ac ysgrifennu aseiniadau yn eich amser eich hun.
Dyfarniadau Lefel 2 - 12 Awr (tua.)
Dyfarniadau Lefel 3 - 16 Awr (tua.)
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Symud ymlaen i Dystysgrif Lefel 3 ILM drwy fynychu cwrs ychwanegu at Gwrs y Dystysgrif. Gofynnwch am fanylion.