Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli

L5 Lefel 5
Rhan Amser
4 Tachwedd 2026 — 30 Ebrill 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Arwain gyda Phwrpas. Dylanwadu gydag Effaith 

Y Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli yw eich cam nesaf tuag at fod y math o arweinydd y mae eraill eisiau ei ddilyn.  

P’un a ydych yn rheolwr profiadol neu’n mentro i swydd fwy strategol, mae’r cymhwyster hwn a gydnabyddir yn genedlaethol wedi ei deilwra i arweinwyr presennol ac ar ddyfod sydd eisiau roi hwb i’w ffordd o feddwl yn strategol, rhoi sglein ar eu steiliau arwain ac arwain timau sy’n perfformio’n dda mewn ffordd hyderus. Gan gymhwyso technegau a sgiliau arwain yn y byd go iawn, byddwch yn datblygu rhagor o hyder wrth gymell, dirprwyo a rheoli perfformiad pobl eraill.  

Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!  

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Er mwyn ennill eich Dyfarniad Lefel 5 ILM, bydd angen i chi fynd i 5 gweithdy gorfodol ar y safle ar Gampws Canol y Ddinas a 2 sesiwn diwtorial gyda’ch tiwtor. 

Gweithdy 1: Dydd Mercher 28 Ebrill 2027, 9.30-4pm 
Gweithdy 2: Dydd Iau 29 Ebrill 2027, 9.30-4pm 
Gweithdy 3: Dydd Mercher 26 Mai 2027, 9.30-4pm 
Gweithdy 4: Dydd Iau 27 Mai 2027, 9.30-4pm  
Gweithdy 5: Dydd Mercher 30 Mehefin 2027, 9.30-4pm 

Modiwlau 
Byddwch yn ennill dealltwriaeth eang o steiliau a damcaniaethau arwain, sgiliau cyfathrebu a deallusrwydd emosiynol cryfach, cipolwg ar gysylltu strategaeth â chyflawniad tîm y byd go iawn a’r adnoddau i ddatblygu ac arwain timau sy’n perfformio’n dda ac yn bodloni nodau’r sefydliad. Modiwlau dan sylw: 

Uned 522: Dod yn Rheolwr Effeithiol 
Uned 507: Deall Amgylchedd y Sefydliad 

Asesiad 
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys dau fodiwl arwain, sydd ill dau yn cynnwys asesiad ysgrifenedig cynhwysfawr. Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.   

Byddwch yn cael cymorth llawn drwy gydol y cwrs, gydag arweiniad gan eich tiwtor ILM dynodedig dros e-bost, Microsoft TEAMS, ffôn ac yn ystod diwrnodau eich tiwtorial. 

Ar ôl ichi basio’r ddau fodiwl yn llwyddiannus, cewch eich Tystysgrif Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Rheoli Arweinyddiaeth, ynghyd â bathodyn digidol i rannu a dathlu eich cyflawniad ar-lein. 

Y broses ymgeisio 
Ar ôl i chi ddefnyddio’r botwm ‘Ymgeisio Nawr’ ar frig y dudalen i gyflwyno eich cais, bydd aelod o’n tîm yn anfon ein holiadur cymhwysedd i gadarnhau mai dyma’r cymhwyster cywir ar gyfer eich swydd bresennol a’ch nodau gyrfa drwy edrych ar ofynion ILM. 

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £1,050.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys am y cwrs hwn os ydych yn:

  • 19 oed neu hŷn • ddim mewn addysg llawn amser 
  • yn gallu mynychu’r gweithdai ar bob dyddiad
  • yn ddelfrydol yn meddu ar A* - C mewn TGAU Saesneg neu gyfwerth neu uwch (oherwydd natur academaidd yr asesiad)
  • eisoes yn gweithio mewn swydd Arwain a Rheoli, neu gyda phrofiad o weithio mewn swydd Arwain a Rheoli.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Tachwedd 2026

Dyddiad gorffen

30 Ebrill 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSILM5EFL
L5

Cymhwyster

ILM Level 5 Award The Effective Leader

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Os ydych yn cwblhau rhagor o Gymwysterau Lefel 5 ILM; Dyfarniad Lefel 5 ILM Arweinydd Datblygol o Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE