Arwain a Rheoli - Camu ymlaen yn Hyderus
Dyluniwyd y Dyfarniad Lefel 3 ILM hwn mewn Arwain a Rheoli i fagu eich hyder, rhoi sglein ar eich steil arwain, a’ch darparu gyda’r adnoddau ymarferol i arwain yn effeithiol yng ngweithleoedd prysur yr oes hon.
P’un a ydych yn arweinydd tîm uchelgeisiol neu eisoes mewn swydd oruchwylio, mae’r cymhwyster hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn berffaith i’r rhai sydd awydd datblygu gwell dealltwriaeth o arwain a rheoli - gan bontio’r blwch rhwng cyfrifoldebau gweithredol a meddwl yn strategol.
Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
Er mwyn ennill eich Dyfarniad Lefel 3 ILM, bydd angen i chi fynd i 2 sesiwn wyneb yn wyneb orfodol ar y safle ar Gampws Canol y Ddinas a 2 diwtorial gyda’ch tiwtor.
Gweithdy 1: Dydd Iau 11 Mawrth 2027, 9.30-4pm
Gweithdy 2: Dydd Iau 15 Ebrill 2027, 9.30-4pm
Gweithdy 3: Dydd Iau 20 Mai 2027, 9.30-4pm
Modiwlau
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys dau fodiwl arwain craidd, y ddau wedi’u cefnogi gan ddull asesu hyblyg i gyd-fynd â’ch steiliau dysgu.
Uned 308: Deall Arweinyddiaeth
Uned 334: Deall a datblygu cysylltiadau yn y gweithle
Asesiad
Ar gyfer pob modiwl, byddwch naill ai’n cwblhau asesiad ysgrifenedig, cyflwyniad llafar neu ddigidol, neu asesiad holi ac ateb ar lafar.
Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth parhaus gan eich tiwtor ILM drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys yn ystod eich sesiwn diwtorial a hefyd dros e-bost, TEAMS a ffôn. Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.
Ar ôl i chi basio’r ddau fodiwl yn llwyddiannus, cewch eich Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli, yn ogystal â bathodyn digidol i rannu a dathlu eich cyflawniad.
Y broses ymgeisio
Ar ôl i chi ddefnyddio’r botwm ‘Ymgeisio Nawr’ ar frig y dudalen i gyflwyno eich cais, bydd aelod o’n tîm yn anfon ein holiadur cymhwysedd i gadarnhau mai dyma’r cymhwyster cywir ar gyfer eich swydd bresennol a’ch nodau gyrfa drwy edrych ar ofynion ILM.
Ffi Arholiad : £105.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £695.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.