Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol

L3 Lefel 3
24 Mehefin 2026 — 20 Ionawr 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Ewch i greu diwylliant hyfforddi yn eich tîm a chefnogi eich sefydliad ehangach gyda’n Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol! 

Wedi ei ddylunio i hyfforddwyr, arweinwyr tîm a rheolwyr llinell gyntaf uchelgeisiol, mae’r cymhwyster hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn cyfuno’r theori hyfforddi gyda’r cyfle i ymarfer eich sgiliau hyfforddi newydd.  

Gallwch gefnogi eraill ar eu taith ddatblygu a sicrhau eu bod yn perfformio i’r lefel uchaf bosib.  

Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!  

Beth fyddwch chi’n ei astudio

I ennill eich Dyfarniad Lefel 3 ILM, bydd angen i chi fynychu 5 sesiwn ddosbarth wyneb yn wyneb orfodol a sesiynau tiwtorial gyda’ch tiwtor ar y dyddiadau isod: 

Diwrnod 1: Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2026, 9.30-4pm  
Diwrnod 2: Dydd Iau 21 Ionawr 2027, 9.30-4pm  
Diwrnod 3: Dydd Iau 4 Mawrth 2027, 9.30-4pm 
Diwrnod 4: Dydd Iau 8 Ebrill 2027, 9.30-4pm 
Diwrnod 5: Dydd Iau 13 Mai 2027, 9.30-4pm 
 
Modiwlau Dan Sylw  

Deall Arferion Da Hyfforddi mewn Cyd-destun Sefydliadol 
Mynd ati i Hyfforddi mewn Cyd-destun Sefydliadol 
Myfyrio ar Sgiliau Hyfforddi o fewn Cyd-destun Sefydliadol  

Dewisiadau Asesu 
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys 3 modiwl ac mae gan bob un aseiniad cynhwysfawr sy’n cynnwys; aseiniad yn seiliedig ar ddamcaniaeth , dyddiadur hyfforddi (tystiolaeth o 6 awr o hyfforddi mewn sefydliad), ac aseiniad myfyriol.  
Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.   
Byddwch yn cael cymorth llawn drwy gydol y cwrs, gydag arweiniad gan eich tiwtor ILM dynodedig dros e-bost, Microsoft TEAMS, ffôn ac yn ystod diwrnodau eich tiwtorial. 
Ar ôl i chi basio’r ddau fodiwl, byddwch yn derbyn eich Tystysgrif Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol, ynghyd â bathodyn digidol i’w rannu a dathlu eich cyflawniad ar-lein. 

Y broses ymgeisio 
Ar ôl i chi ddefnyddio’r botwm ‘Ymgeisio Nawr’ ar frig y dudalen i gyflwyno eich cais, bydd aelod o’n tîm yn anfon ein holiadur cymhwysedd i gadarnhau mai dyma’r cymhwyster cywir ar gyfer eich swydd bresennol a’ch nodau gyrfa drwy edrych ar ofynion ILM. 

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £120.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £1,045.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys am y cwrs hwn os ydych yn:

• 19 oed neu hŷn

• ddim mewn addysg llawn amser

• yn gallu mynychu’r cwrs ar bob dyddiad

• yn ddelfrydol yn meddu ar A* - C mewn TGAU Saesneg neu gyfwerth

• yn rheolwr llinell gyntaf, arweinydd tîm neu’n hyfforddwr uchelgeisiol

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

24 Mehefin 2026

Dyddiad gorffen

20 Ionawr 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSILM3ECM
L3

Cymhwyster

ILM Level 3 Award in Effective Coaching & Mentoring

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

  • Dyfarniad Lefel 3 ILM yr Arweinydd Uchelgeisiol

  • Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Mentora a Hyfforddi Effeithiol

  • Dyfarniad Lefel 5 ILM Yr Arweinydd Datblygu 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE