Rhaglennu Python

L2 Lefel 2
Rhan Amser
10 Mawrth 2025 — 7 Gorffennaf 2025
Ar-lein
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Rhaglennu Python lefel 2 yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno datblygu eu sgiliau rhaglennu i safon diwydiant.  Byddwch yn dysgu un o'r ieithoedd rhaglennu mwyaf amlwg sy'n hynod ddymunol o fewn y gweithle.  Mae hwn yn gwrs ymarferol, gyda llawer o heriau codio i brofi eich sgiliau wrth i chi fynd yn eich blaen.  Byddwn yn canolbwyntio ar godio gweithdrefnol ar gyfer y cwrs hwn.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau perfformio a gwybodaeth mewn:

  1. Newidynnau a strwythurau data
  2. Strwythurau rheoli (e.e. datganiadau, dolennau)
  3. Rheoli ffeiliau
  4. Boole a gweithredwyr rhesymegol
  5. Swyddogaeth
  6. Technegau codio cadarn
  7. Offer dadfygio
  8. Dulliau profi

Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gan Agored Cymru.
Gellir addysgu'r cwrs gyda thiwtor o bell neu o fewn y dosbarth.  Pe byddwch yn dewis addysgu o bell, ni fydd angen i chi brynu unrhyw feddalwedd ar gyfer y cwrs.  Fodd bynnag, byddwch angen cyfrifiadur sy'n gweithio gyda seinyddion a mynediad at y Rhyngrwyd.  Byddai meicroffon yn ddefnyddiol, ond nid yn hanfodol.
Rydym yn cynnig cwrs amgen ar yr un lefel, sef Rhaglennu C++.  Rydym hefyd yn cynnig fersiwn rhagarweiniol o'r cwrs hwn, sef "Cyflwyniad i Godio Python".

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd yn y pwnc a bod yn barod i astudio yn annibynnol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Mawrth 2025

Dyddiad gorffen

7 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ITCC2P21
L2

Cymhwyster

CK32CY008 Creating a Procedural Computer

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).