Dyfarniad Sylfaen y BCS: Deall Rôl Moeseg wrth Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn Gyfrifol

L3 Lefel 3
Rhan Amser
8 Mawrth 2027 — 19 Ebrill 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i unrhyw un sy’n gweithio yn y proffesiwn TG neu ochr yn ochr â’r proffesiwn y mae disgwyl iddynt ymddwyn yn foesegol mewn cymdeithas ac ym myd busnes, o weithwyr desg gwasanaeth i Brif Swyddogion Gwybodaeth. Mae hefyd yn berthnasol iawn i arweinwyr busnes a digidol sy’n ystyried mabwysiadu deallusrwydd artiffisial (AI) yn eu sefydliadau, i ymarferwyr digidol sy’n dymuno gwella eu sgiliau a’u cymhwysedd proffesiynol, ac i weithwyr sy’n dymuno gwella eu dealltwriaeth o oblygiadau moesegol eu gwaith a’u penderfyniadau.

Yn ogystal â hynny, mae’r cwrs yn werthfawr i ddefnyddwyr sy’n dymuno cymryd rhan mewn cymdeithas - sy’n fwy a mwy dibynnol ar dechnoleg - mewn ffordd sy’n fwy seiliedig ar wybodaeth, a mwy cyfrifol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) wedi achredu'r cwrs hwn. I gael eu hardystio, rhaid i ddysgwyr lwyddo i gwblhau arholiad aml-ddewis byr. Mae modd sefyll yr arholiad o bell. Mae’r cwrs yn cael ei addysgu ar-lein ar Microsoft Teams, sy’n rhoi mynediad hyblyg i ddysgwyr mewn unrhyw leoliad.

Mae’r cwrs hwn yn edrych ar y canlynol:

  • Effaith AI ym myd busnes a lefel cyfrifoldeb sefydliadau ac unigolion wrth ddatblygu, gweithredu a defnyddio technolegau AI
  • Sut mae dylanwad ac atebolrwydd AI yn ymestyn y tu hwnt i sefydliadau unigol ac yn effeithio ar gymdeithas gyfan, gan dynnu sylw at oblygiadau moesegol, cymdeithas ac economaidd mabwysiadu AI yn eang
  • Y niwed posib sy’n gallu deillio o systemau AI a’r mesurau diogelu angenrheidiol i leihau’r risgiau, a hybu defnydd cyfrifol 
  • Sut mae rôl pobl yn newid mewn byd sy’n cael ei yrru gan AI, gan ganolbwyntio ar sut gall pobl weithio’n effeithiol ochr yn ochr â thechnolegau deallus gan sicrhau goruchwyliaeth, atebolrwydd, a bod prosesau gwneud penderfyniadau yn rhai moesegol.

Gofynion mynediad

TGAU Saesneg o leiaf gradd C.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Mawrth 2027

Dyddiad gorffen

19 Ebrill 2027

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

ITCC3P26
L3

Cymhwyster

BCS Foundation Award: Award in Understanding the Role of Ethics in the Responsible Use of AI

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Mae’r dyfarniad hwn yn un o bedwar dyfarniad Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain yn y Gyfres Sylfaen Deallusrwydd Artiffisial. Drwy lwyddo i ennill pob un o’r pedwar dyfarniad rydyn ni’n eu cynnig, gall dysgwyr ennill Tystysgrif Sylfaen y BCS mewn Deallusrwydd Artiffisial, gan roi sylfaen gadarn iddynt yn y prif gysyniadau, defnyddiau a thechnolegau sy’n sail i ddeallusrwydd artiffisial (AI) yng ngweithleoedd y byd sydd ohoni.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE