Dyfarniad Sylfaen y BCS: Delweddu Data

L3 Lefel 3
Rhan Amser
10 Mai 2027 — 24 Mai 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i weithwyr busnes a digidol proffesiynol sy’n awyddus i ennill dealltwriaeth fwy clir o sut mae data’n helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau, i unigolion sy’n dymuno symud i swyddi dadansoddi neu ymchwil, ac i unrhyw un sy’n dymuno gwella ei ffordd o reoli, dehongli a defnyddio data yn effeithiol yn ei swydd bresennol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) wedi achredu'r cwrs hwn. I gael eu hardystio, rhaid i ddysgwyr lwyddo i gwblhau arholiad aml-ddewis byr. Mae modd sefyll yr arholiad o bell. Mae’r cwrs yn cael ei addysgu ar-lein ar Microsoft Teams, sy’n rhoi mynediad hyblyg i ddysgwyr mewn unrhyw leoliad.

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i helpu unigolion a sefydliadau i wneud penderfyniadau sy’n fwy seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth. 

Bydd dysgwyr yn:

  • Datblygu dealltwriaeth o brosesau gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata.
  • Edrych ar amrywiaeth o adnoddau ar gyfer storio a dadansoddi data.
  • Dysgu technegau effeithiol ar gyfer cyflwyno data mewn ffyrdd ystyrlon. 

Mae’r dyfarniad hefyd yn edrych ar sut gall dealltwriaeth pobl a dysgu peirianyddol gydweithio i wella dealltwriaeth, effeithlonrwydd, a phrosesau gwneud penderfyniadau.

Gofynion mynediad

TGAU Saesneg o leiaf gradd C.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Mai 2027

Dyddiad gorffen

24 Mai 2027

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

ITCC3P25
L3

Cymhwyster

BCS Foundation Award: Award in Data Visualisation

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Mae’r dyfarniad hwn yn un o bedwar dyfarniad Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain yn y Gyfres Sylfaen Deallusrwydd Artiffisial. Drwy lwyddo i ennill pob un o’r pedwar dyfarniad rydyn ni’n eu cynnig, gall dysgwyr ennill Tystysgrif Sylfaen y BCS mewn Deallusrwydd Artiffisial, gan roi sylfaen gadarn iddynt yn y prif gysyniadau, defnyddiau a thechnolegau sy’n sail i ddeallusrwydd artiffisial (AI) yng ngweithleoedd y byd sydd ohoni.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE