Ymwybyddiaeth Cerbydau Hybrid

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cymhwyster hwn wedi ei ddylunio ar gyfer y bobl hynny sy'n dod i gysylltiad â cherbydau hybrid/trydan o fewn gwaith cynnal a chadw rheolaidd. Mae hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i weithio'n ddiogel o amgylch cerbyd a all fod wedi cael difrod i'w system drydanol/ynni uchel.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

  • gweithio'n ddiogel ar gerbyd trydan/hybrid
  • defnyddio gwybodaeth i wneud tasg
  • gwneud gwaith atgyweirio ar systemau trydanol, ynni uchel
  • cofnodi gwybodaeth a gwneud argymhellion addas

O ganlyniad, bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn datblygu gwybodaeth a sgiliau sylfaenol sylweddol a'r gallu i dynnu ac ailosod cydrannau foltedd ynni uchel cerbydau hybrid/trydanol.

Addysgu ac Asesu

Bydd yr addysgu yn cael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gweithdy masnachol cerbydau ysgafn.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £79.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Ffi Cwrs: £315.00

Gofynion mynediad

Bydd yn rhaid i'r ymgeisydd feddu ar brofiad perthnasol yn y diwydiant modurol (argymhellir 4 blynedd).

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

16 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MVCC3P16
L3

Cymhwyster

IMI Lefel 3 Dyfarniad mewn Trwsio ac Ailosod Systemau Cerbydau Trydanol/Hybrid

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE