Gofal Iechyd Cyflenwol (gyda Statws Ymarferydd)

L5 Lefel 5
Llawn Amser
10 Medi 2024 — 19 Mai 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r rhaglen hon wedi ei dylunio er mwyn galluogi myfyrwyr i raddio fel therapyddion wedi eu hachredu’n broffesiynol, hynod fedrus sy’n gallu defnyddio eu dadansoddiad beirniadol o’r sylfaen dystiolaeth i ddatblygu darpariaeth ac ymchwil gofal iechyd cyflenwol. Mae’r pwyslais cryf ar gyfleoedd dysgu yn seiliedig ar waith clinigol, entrepreneuriaeth, sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau addysg uwch craidd yn paratoi myfyrwyr i fynd ymlaen i astudio ar Lefel 6, hunangyflogaeth neu gyflogaeth mewn lleoliad gofal iechyd. Bydd hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer dysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol parhaus.

Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.

Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:

  • Gorchudd Wyneb
  • Fisor
  • Ffedogau Plastig
  • Menig Llawfeddygol

Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – RS01, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd yr HND yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau therapi myfyrwyr ac yn caniatáu iddynt ennill dau gymhwyster Proffesiynol, mewn tylino cyfannol (MTI) ac aromatherapi clinigol (IFPA). Mae myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau mewn adweitheg glinigol a thrwy ennill y cymhwyster HND, mae myfyrwyr yn gymwys i fod yn aelod o Gymdeithas yr Adweithegwyr (AoR).

Byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol;

Blwyddyn 1:

  • Anatomeg a Ffisioleg Dynol
  • Tylino Cyfannol 1
  • Tylino Cyfannol 2
  • Adweitheg Glinigol 1
  • Cyflwyniad i Sgiliau Allweddol
  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol

Blwyddyn 2:

  • Adweitheg Glinigol 2
  • Dulliau Ymchwil
  • Aromatherapi Clinigol 1
  • Aromatherapi Clinigol 2
  • Ymarfer Proffesiynol a Chlinigol

Seicoleg Iechyd a Llesiant

Bydd myfyrwyr yn astudio cymysgedd o theori ac ymarfer a ddarperir drwy ystod o ddulliau addysgu ar draws y rhaglen gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, dosbarthiadau ymarferol, clinigau dan oruchwyliaeth, tasgau grŵp a chyflwyniadau.

Bydd yn rhaid i ddysgwyr dderbyn 10 triniaeth gan ymarferydd cymwys a thalu am Yswiriant Atebolrwydd Proffesiynol eu hunain.

Bydd Yswiriant Atebolrwydd Proffesiynol yn costio oddeutu £40 y flwyddyn.

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddyfarnu a'i gymedroli trwy Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £7,500.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2024

Dyddiad gorffen

19 Mai 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

16 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBHE5F02
L5

Cymhwyster

HND Complementary Healthcare

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y cyfle i symud ymlaen i drydedd flwyddyn ychwanegol y BSc (Anrh) Gofal Iechyd Cyflenwol yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE