Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, neu sydd eisiau gwneud hynny. Mae’r cymhwyster yn datblygu cymhwysedd dysgwyr i gefnogi anghenion iechyd a gofal oedolion yn ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o fewn cyd-destun arfer iechyd a gofal cymdeithasol. Argymhellir dilyn y cwrs hwn ar ôl gorffen cwrs craidd lefel 2 mewn Iechyd a Gofal cymdeithasol.
Drwy ddilyn y cwrs hwn, byddwch yn astudio:
Cymorth cyntaf brys, codi a chario, hylendid bwyd sylfaenol, rheoli heintiau, Gweinyddu meddyginiaeth, sgiliau atal hunanladdiad
Addysgir rhwng y dosbarth ac mewn lleoliad gwaith.
Asesir drwy arholiadau, asesiadau ac asesiadau ymarferol
Mae’n rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus hefyd:
Hanfodol: 4 TGAU A* i C. Gan gynnwys gradd C mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith a gradd D mewn Mathemateg (ni dderbynnir TGAU rhifedd, fodd bynnag, bydd dysgwyr sydd â chymhwyster Cymhwyso Rhif lefel 2 yn cael eu hystyried fel dewis amgen i y radd D mewn TGAU Mathemateg) Gwiriad DBS Manylach i'w gwblhau wrth Ymrestru. Dymunol: craidd Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae’r cwrs wedi rhoi profiad gwerthfawr, ymarferol i mi ym maes gofal iechyd a chefais gefnogaeth fy athrawon drwy gydol fy amser yma. Mae’r cyfleusterau yn wych ac rydym wastad yn defnyddio’r offer diweddaraf, sy’n bodloni safonau’r diwydiant. Mae’r Coleg hefyd wedi rhoi cysylltiadau trafnidiaeth hygyrch i mi, sy’n golygu y gallaf gyrraedd a gadael y campws yn ddidrafferth. Rwy’n edrych ymlaen at fy nyfodol, ac yn awyddus i fynd ymlaen i Lefel 3 y flwyddyn nesaf ac yna dechrau gweithio yn y sector.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i ddilyn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3, neu o fewn eich gweithle.