Iechyd a Gofal Cymdeithasol

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y cymhwyster yn mynd i'r afael â'r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sylfaenol sydd eu hangen yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ddarparu sail eang ar gyfer addysg bellach a/neu uwch neu gyflogaeth yn y sectorau.

Dyma flwyddyn gyntaf cwrs 2 flynedd ac mae'n cynnwys Bagloriaeth Cymru.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i archwilio gwahanol elfennau ar y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ymgorffori egwyddorion a chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag agweddau Seicolegol a Biolegol.

Mae’r ail flwyddyn o'r cwrs yn parhau i astudio’r elfennau hyn mewn mwy o fanylder fel y bydd gan ddysgwyr nifer o opsiynau am yrfaoedd neu astudiaethau o fewn AU yn y dyfodol. Bydd y cymhwyster hefyd yn dod ynghyd â her sgiliau Bagloriaeth Cymru.

Yn unol â'r cwrs mae gofyniad i gwblhau lleoliad gwaith o leiafswm o 50 awr mewn lleoliad perthnasol.

Gofynion mynediad

5 TGAU A*-C. C mewn Iaith Saesneg, C mewn Mathemateg (ni dderbynnir rhifedd).

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CRCC3F05
L3

Cymhwyster

Pearson BTEC Level 3 National Certificate in Applied Psychology

Mwy...

Fideos
Dysgu Dwyieithog
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Mae’r tiwtoriaid yn hynod gefnogol a deallgar. Rwy’n gobeithio symud ymlaen i fod yn gymhorthydd addysgu cymwys.”

Grace McDonald
Myfyriwr Gofal Plant Lefel 2 presennol

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

103,500

Ar hyn o bryd, mae bron i 103,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a disgwylir i’r niferoedd cyflogaeth gyrraedd 105,000 erbyn 2027 (Lightcast 2022).

Gallai dysgwyr sy'n cwblhau'r Cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ochr yn ochr â chymwysterau Lefel 3 eraill, gan gynnwys TAG a/neu CBC symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch mewn meysydd gan gynnwys:

  • iechyd
  • gofal cymdeithasol
  • therapi iaith a lleferydd
  • seicoleg
  • bydwreigiaeth
  • iechyd galwedigaethol

Efallai y bydd y dysgwyr hynny sydd eisiau dilyn cyrsiau addysg uwch yn dewis astudio'r cymwysterau hyn gyfochr â TAG Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant gan gwblhau gwaith sydd gyfwerth â thri chwrs Safon Uwch.

Gall y cymwysterau hyn arwain at addysg bellach a hyfforddiant mewn llu o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn cynnwys:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Ymarfer (Oedolion)
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4 gydag Arbenigedd

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE