Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oedolion

L3 Lefel 3
10 Mehefin 2026 — 11 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion yn ffordd bwysig o gefnogi gweithwyr a chydweithwyr gyda’u llesiant meddyliol. Mae’r hyfforddiant hwn yn datblygu’r sgiliau i ganfod pryd mae pobl eraill yn profi iechyd meddwl gwael a gwybodaeth am sut i fynd ati i ddechrau sgwrs i roi cefnogaeth briodol. 

Byddwch yn dysgu fframwaith y cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, a fydd yn rhoi’r hyder ichi gefnogi eraill ac a fydd yn meithrin eich ymwybyddiaeth o’r heriau iechyd meddwl amrywiol y gall pobl eu profi. 

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth am iechyd meddwl ac ennill yr adnoddau i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i eraill, boed yn y gweithle neu yn y gymuned gyda ffrindiau a theulu. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnal dros 2 ddiwrnod llawn (9.30am - 4.30pm) mewn ystafell ddosbarth. 


Mae’r cwrs hwn yn hynod ryngweithiol ac mae angen i gyfranogwyr gydweithio gyda phobl eraill, yn ogystal â hunan-fyfyrio. Mae’r rhaglen yn cyflwyno sylfaen ymwybyddiaeth o iechyd meddwl gyda rhai adnoddau ymarferol i’w defnyddio gyda phobl eraill.


Diwrnod 1

  • Rôl y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Cymhwyso’r Cynllun Gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Iselder
  • Gorbryder
  • Hunanofal i’r Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Diwrnod 2:

  • Seicosis
  • Problemau Camddefnyddio Sylweddau
  • Stigma a beirniadaethau
  • Cymhwyso’r Cynllun Gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

*Noder, oherwydd y pynciau sensitif a drafodir yn yr hyfforddiant, argymhellir bod gan gyfranogwyr lefel briodol o lesiant cyn mynychu. 

*Mae hyfforddiant MHFA Wales wedi’i drwyddedu i gyfranogwyr sy’n byw a/neu’n gweithio yng Nghymru yn unig.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £190.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Mehefin 2026

Dyddiad gorffen

11 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSMHFA3P03
L3

Cymhwyster

Mental Health First Aid

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE