HND mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn rhaglen ran amser dwy flynedd o hyd sydd wedi’i dylunio ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o, neu sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu.
Bydd y cwrs yn eich helpu i feithrin eich sgiliau rheoli safle, contractau a rheolaeth a Modelu Gwybodaeth Adeiladu (CIM), cynaliadwyedd a rheolaeth adeiladau cymhleth. Bydd gan raddedigion ragolygon pellach ym maes disgyblaethau rheolaeth adeiladu, gan gynnwys Rheolaeth Safle, Rheolwyr Cyfleusterau a Rheoli Prosiect. Mae gan y cwrs hwn enw da ymysg cyflogwyr yn y diwydiant adeiladu.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Nod y rhaglen yw gweddnewid eich gwybodaeth a'ch profiad presennol yn gymhwyster cydnabyddedig a bydd yn eich darparu chi â'r sylfaen i adeiladu eich gyrfa ymhellach arno.
Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu ystod eang o feysydd pwnc ac yn cynnwys nifer o unedau gorfodol ac opsiynol, gan gynnwys:
- Prosiect Grŵp Pearson
- Rheoli contractau
- Rheoli Prosiectau
- Dulliau Adeiladu Amgen
- Asesu a Monitro Amgylcheddol
- Uwch Fodelu Gwybodaeth Adeiladu
- Datblygiad Proffesiynol Personol
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £1,920.00
Gofynion mynediad
Cwblhau HNC yn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn gall dysgwyr symud ymlaen i gwrs NVQ Lefel 6 mewn rheolaeth safle neu barhau â’u hastudiaethau gyda chymhwyster lefel gradd yn y brifysgol.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu