Mae’r cwrs HND mewn Cyfrifiadura hwn ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno ennill cymhwyster Cyfrifiadura Lefel Uwch neu sy’n gweithio yn y diwydiant TG a Chyfrifiadura. Mae’n addas ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn TG neu sy’n awyddus i symud ymlaen yn eu gyrfa.
Addysgir y dysgwyr drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gwaith ymarferol mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf a defnydd o Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE). Mae’r dulliau o asesu yn gwahaniaethu ar gyfer bob modiwl a astudir; defnyddir gwaith aseiniad, arholiadau neu brofion drwy gydol y rhaglen.
Mae hwn yn ddiwydiant deinamig fydd yn cael effaith sylweddol ar ein datblygiad a ffyniant economaidd yn y dyfodol.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:
Blwyddyn 1:
Blwyddyn 2:
Blwyddyn 3:
48 pwynt tariff UCAS wedi'u hennill o un o’r canlynol:
Bydd CAVC hefyd yn ystyried dysg flaenorol ymgeiswyr wrth ystyried eu cais am y rhaglen drwy Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sydd heb y gofynion mynediad sylfaenol ond sydd â phrofiad gwaith perthnasol.
Dydd Mawrth & dydd Iau, 2.30 - 8.30.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Fe wnes i fwynhau’r holl wahanol unedau ac aseiniadau oedd angen llawer o ymchwil ar fy nghwrs. Fy hoff beth am CAVC ydy fod y cyfleusterau ar gael i ni eu defnyddio 24/7.”
Gall ymgeiswyr sy'n cyflawni'r cymwysterau hyn fynd ymlaen i astudio cymwysterau academaidd a phroffesiynol pellach neu ddilyn gyrfa weinyddol, rheoli neu fasnachol.