Gofal Iechyd Cyflenwol (gyda Statws Ymarferydd)

L5 Lefel 5
Llawn Amser
10 Medi 2024 — 19 Mai 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r rhaglen hon wedi ei dylunio er mwyn galluogi myfyrwyr i raddio fel therapyddion wedi eu hachredu’n broffesiynol, hynod fedrus sy’n gallu defnyddio eu dadansoddiad beirniadol o’r sylfaen dystiolaeth i ddatblygu darpariaeth ac ymchwil gofal iechyd cyflenwol. Mae’r pwyslais cryf ar gyfleoedd dysgu yn seiliedig ar waith clinigol, entrepreneuriaeth, sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau addysg uwch craidd yn paratoi myfyrwyr i fynd ymlaen i astudio ar Lefel 6, hunangyflogaeth neu gyflogaeth mewn lleoliad gofal iechyd. Bydd hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer dysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol parhaus.

Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.

Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:

  • Gorchudd Wyneb
  • Fisor
  • Ffedogau Plastig
  • Menig Llawfeddygol

Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – RS01, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd yr HND yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau therapi myfyrwyr a’u galluogi i ennill dau gymhwyster Proffesiynol, mewn tylino holistig (MTI) ac aromatherapi clinigol (IFPA). Mae myfyrwyr hefyd yn datblygu ei sgiliau adweitheg glinigol a thrwy ennill y cymhwyster HND, mae myfyrwyr yn gymwys ar gyfer aelodaeth o'r Association of Reflexologists (AoR). Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1:

· Anatomeg a ffisioleg dynol

· Tylino Cyfannol 1

· Tylino Cyfannol Uwch 2

· Adweitheg 1

· Sgiliau Allweddol Rhagarweiniol

· Addysg ryngbersonol

· Sgiliau cyfathrebu a gwrando

Blwyddyn 2:

· Seicoleg Lles ac Iechyd

· Adweitheg Glinigol 2

· Dulliau Ymchwil

· Aromatherapi Clinigol 1

· Aromatherapi Clinigol 2

· Ymarfer Proffesiynol a Chlinigol

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chymysgedd gytbwys o’r ymarferol a’r damcaniaethol a ddarperir drwy ystod o ddulliau dysgu ar draws y rhaglen, gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, dosbarthiadau ymarferol, clinigau dan oruchwyliaeth, cyflwyniadau a thasgau grŵp.

Ar ddiwedd y cwrs, mae angen ichi fynychu lleoliad gwaith a chwblhau 100 awr o brofiad gwaith. Mae’r lleoliadau gwaith yn cynnwys Hosbis y Ddinas, Caerdydd a Wardiau Hematoleg Ysbyty Athrofaol Cymru. Yma bydd myfyrwyr yn ennill profiad a mewnwelediad gwerthfawr i drin Cleifion ag afiechydon sy’n cyfyngu ar fywyd.

Bydd disgwyl i ddysgwyr dderbyn 10 triniaeth gan ymarferydd cymwys a chael Yswiriant Atebolrwydd Proffesiynol am eu pris eu hunain. Bydd Yswiriant Atebolrwydd Proffesiynol yn costio oddeutu £40 y flwyddyn. Dyfernir y cymhwyster drwy gredyd a chaiff ei gymedroli drwy Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £7,500.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2024

Dyddiad gorffen

19 Mai 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

16 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBHE5F02
L5

Cymhwyster

HND Complementary Healthcare

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y cyfle i symud ymlaen i drydedd flwyddyn ychwanegol y BSc (Anrh) Gofal Iechyd Cyflenwol yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE