Trin Gwallt
Ynglŷn â'r cwrs
Mae ein cwrs Diploma VRQ Lefel 2 VTCT mewn Trin Gwallt (QFC) yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol ar gyfer dysgwyr sy’n ceisio gyrfa fel triniwr/steilydd gwallt iau cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Wedi ei lleoli ar ein campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Trin Gwallt Lefel 2, ac yn cael ei gydnabod gan brif gymdeithas broffesiynol trin gwallt y DU (Y Cyngor Trin Gwallt) fel bod yn addas i bwrpas ar gyfer paratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa yn y sector. Gan astudio yng nghyfleusterau rhagorol y coleg (gan gynnwys ein salonau trin gwallt masnachol helaeth), mae’r rhaglen wedi ei saernïo i ddarparu dysgwyr gyda’r hyblygrwydd i ddatblygu’r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer eu llwybr gyrfa dynodedig fel triniwr/steilydd gwallt.
Yn ogystal â'ch cwrs Trin Gwallt byddwch hefyd yn gweithio tuag at Dystysgrif NVQ Lefel 2 mewn Sgiliau Manwerthu. Bydd hyn yn eich darparu chi â'r sgiliau a'r wybodaeth i weithio yn y sector manwerthu, sy'n rhan sylweddol o'r diwydiant trin gwallt. Byddwch yn dysgu sut i weithio'n effeithiol fel tîm, sgiliau gwerthu, trefnu hysbysebion ac arddangosfeydd yn ogystal â rhoi argraff gadarnhaol ohonoch chi eich hunan a'ch sefydliad.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sy'n ofynnol i weithio'n effeithiol fel triniwr/arddulliwr gwallt iau:
- Iechyd a diogelwch
- Ymgynghori â chleientiaid
- Siampŵo a chyflyru gwallt
- Torri
- Sychu a gosod gwallt
- Lliwio
- Uned torri gwallt dynion
Mae'r unedau hyn i gyd yn orfodol.
Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a'u sgiliau trwy ddewis nifer o unedau arbenigol opsiynol gan gynnwys:
- Pyrmio
- Plethu a throelli gwallt
- Dyletswyddau'r dderbynfa
- Hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau i gleientiaid
Mae meysydd eraill a ymdrinnir â hwy yn cynnwys Llythrennedd a Rhifedd Sgiliau Hanfodol.
Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith fel rhan o'u cymhwyster llawn amser, yn ogystal â chael cyfle i weithio mewn amgylchedd masnachol prysur er mwyn datblygu eu sgiliau a'u cymhwysedd galwedigaethol.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £30.00
Ffi Salon: £30.00
Gofynion mynediad
3 TGAU Graddau A* - D gan gynnwys Saesneg Iaith (neu gyfatebol). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel dewis arall, cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
Addysgu ac Asesu
- Asesiadau parhaus, asesiadau ymarferol ac arholiadau
Pwyntiau pwysig
- Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
- Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
- Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
- Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
- Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Trin Gwallt
Cyfleusterau
Mwy
Fy nyddiau gorau yn y coleg yw pan fyddwn ni'n dysgu technegau newydd, sy'n ein cadw'n gyfoes â'r diwydiant trin gwallt. Mae'r tiwtoriaid yn wirioneddol hyfryd a chefnogol ac maen nhw'n eich helpu gymaint ag y gallant.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu