Gwasanaethau Trin Gwallt

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd Diploma VTCT Lefel 2 mewn Sgiliau Gwallt a Harddwch (VRQ) yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau, technegau a gwybodaeth gwallt a harddwch, a fydd yn eu paratoi i symud ymlaen i’r lefel nesaf o ddysgu galwedigaethol. 

Mae holl unedau’r cymhwyster hwn yn paratoi dysgwyr yn uniongyrchol ar gyfer astudiaeth bellach yn y sector gwallt a harddwch.

Mae holl unedau’r cymhwyster hwn wedi’u cynllunio fel sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach yn y sector gwallt a harddwch. 
Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth am y sector gwallt a harddwch ac yn defnyddio hyn fel sail i ddysgu pellach ar Lefel 2, fel dysgwr llawn amser neu ran amser.

*Mae angen i fyfyrwyr brynu cit a gwisg cyn dechrau’r cwrs. Bydd rhagor o wybodaeth ynghylch hyn yn cael ei rhannu gyda chi yn ystod cyfweliad/cofrestru. 

Beth fyddwch yn ei astudio?

· Sgiliau trin gwallt sylfaenol

· Sgiliau harddwch sylfaenol

· Sgiliau allweddol

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrofiad gwaith ar leoliad fel rhan o’u cymhwyster llawn amser, yn ogystal â mynychu ar ddydd Sadwrn ar sail rota yn salon Urbasba’r coleg, er mwyn datblygu eu sgiliau a’u galluoedd galwedigaethol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Salon: £30.00

Gofynion mynediad

3 TGAU Gradd A*-D yn cynnwys Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel arall, wedi cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg yn dangos ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da. 

Addysgu ac Asesu

Cesglir gwybodaeth a dealltwriaeth o’r unedau Gwallt a Harddwch mewn portffolio o dystiolaeth. 

Cewch arweiniad ar gyfer hyn gan eich aseswr. 

Bydd eich aseswr hefyd yn gofyn cwestiynau i gadarnhau eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth. 

Bydd eich aseswr hefyd yn arsylwi eich perfformiad ymarferol ym mhob maes asesu. 

Pennir eich gradd trwy gyflawni meini prawf asesu a chyflawni safonau perfformiad ychwanegol.

Bydd yr holl asesiadau gwallt a harddwch yn cael eu cynnal ar fodelau dynol neu fodelau mannequin. 

Bydd asesiadau sgiliau hanfodol ac asesiadau Cymraeg yn ysgrifenedig/ar lafar, mewn grŵp ac ar gyfrifiadur.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBCC2F21
L2

Cymhwyster

Hairdressing Services

Gwasanaethau Trin Gwallt

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mi wnes i lwyr fwynhau fy nghyfnod yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae’n sicr wedi bod o gymorth i mi gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod. Fe ddechreuais ar y cwrs Harddwch a Gwallt Lefel 2, cyn mynd yn fy mlaen i’r cwrs Harddwch a Therapi Spa Lefel 3. Yna, fe ddychwelais i gwblhau cwrs Uwch Estheteg Lefel 4. Roedd hi’n wych cael dysgu a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn salon go iawn. Un o fy uchafbwyntiau oedd cystadlu mewn Cystadleuaeth WorldSkills a chipio’r ail wobr. Ers gadael, rwyf wedi sefydlu salon fy hun, ble rwyf yn cynnig amrywiaeth o driniaethau. Y flwyddyn nesaf byddaf yn mynd ymlaen i gyflogi technegydd ewinedd a therapydd harddwch i’m helpu i dyfu’r busnes a chynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau i’m cleientiaid.

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch Lefel 2 a 3 ac yn raddedig mewn Uwch Estheteg Lefel 4

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Gall dysgwyr symud ymlaen i:

· Barbro

· Therapi Harddwch

· Colur theatrig a’r cyfryngau

· Cyflogaeth fel prentis Lefel 2 yn y diwydiant

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE