Trin Gwallt

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cwrs Lefel 1 a 2 Diploma NVQ VTCT mewn Trin Gwallt (QCF) yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol i ddysgwyr sy’n chwilio am yrfa fel steilydd/person trin gwallt ifanc cyflogedig a/neu hunangyflogedig. 

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Trin Gwallt (NOS) Lefel 1 a Lefel 2, ac mae’n cael ei gydnabod gan gymdeithas broffesiynol trin gwallt flaenllaw’r DU (y Cyngor Trin Gwallt) fel un sy’n addas ar gyfer y diben o baratoi dysgwyr at yrfa yn y sector. 

Mae’r cwrs yn gwneud defnydd o gyfleusterau gwych y coleg, gan gynnwys ein salonau trin gwallt masnachol enfawr, sydd â chleientiaid sy’n talu am wasanaethau er mwyn i ddysgwyr ymarfer arnynt. Mae’r rhaglen hon wedi cael ei strwythuro i roi’r hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu llwybr gyrfa pwrpasol fel steilydd gwallt/person trin gwallt iau. 

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni’r holl unedau angenrheidiol sy’n cynnwys:        

Lefel 1 - i’w chwblhau erbyn mis Rhagfyr:

  • Tynnu lliwiau
  • Siampwio a chyflyru’r gwallt
  • Chwythsychu
  • Gweithio gydag eraill
  • Iechyd a diogelwch

Lefel 2:

  • Iechyd a diogelwch
  • Ymgynghori â chleientiaid
  • Siampwio, cyflyru
  • Torri Gwallt
  • Chwythsychu a gosod
  • Lliwio
  • Datblygu a chynnal eich effeithlonrwydd yn y gwaith 

Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau drwy gwblhau’r unedau arbenigol dewisol canlynol:

  • Plethu a throi gwallt
  • Dyletswyddau derbynfa

Mae meysydd eraill y bydd y cwrs yn edrych arnynt yn cynnwys Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd a Rhifedd.

Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o’u cymhwyster llawn amser, a byddant hefyd yn cael y cyfle i weithio mewn amgylchedd masnachol prysur i ddatblygu eu sgiliau galwedigaethol a’u cymhwystra.

Profiad Gwaith mewn Salon: Cyfanswm o 245 awr.

Caiff hyn ei gyflawni drwy gwblhau lleoliad gwaith mewn salon, a hefyd gweithio un noson hwyr yr wythnos a hyd at 6 dydd Sadwrn yn Salon urbasba dros gyfnod y cwrs. Mae Sgiliau Hanfodol Cymru yn rhan orfodol o’r cwrs.

Ffïoedd cwrs

Ffi Salon: £30.00

Trin Gwallt

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mi wnes i lwyr fwynhau fy nghyfnod yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae’n sicr wedi bod o gymorth i mi gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod. Fe ddechreuais ar y cwrs Harddwch a Gwallt Lefel 2, cyn mynd yn fy mlaen i’r cwrs Harddwch a Therapi Spa Lefel 3. Yna, fe ddychwelais i gwblhau cwrs Uwch Estheteg Lefel 4. Roedd hi’n wych cael dysgu a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn salon go iawn. Un o fy uchafbwyntiau oedd cystadlu mewn Cystadleuaeth WorldSkills a chipio’r ail wobr. Ers gadael, rwyf wedi sefydlu salon fy hun, ble rwyf yn cynnig amrywiaeth o driniaethau. Y flwyddyn nesaf byddaf yn mynd ymlaen i gyflogi technegydd ewinedd a therapydd harddwch i’m helpu i dyfu’r busnes a chynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau i’m cleientiaid.

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch Lefel 2 a 3 ac yn raddedig mewn Uwch Estheteg Lefel 4

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Prawf Masnach Trin Gwallt Lefel 3.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE