Mae’r Diploma VTCT Lefel Mynediad mewn Astudiaeth Galwedigaethol - Trin Gwallt a Harddwch (Mynediad 3) yn gymhwyster sydd wedi cael ei ddylunio i’ch cyflwyno chi i amrywiaeth o sgiliau ymarferol o’r diwydiant trin gwallt a harddwch, a’ch darparu chi gyda’r cyfle i ddatblygu eich sgiliau personol a chymdeithasol eich hun.
Mae hwn yn ddiploma llawn, a byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau technegol a phersonol. Mae’r cymhwyster hwn wedi cael ei ddylunio i unigolion sydd ag ychydig, neu ddim cymwysterau blaenorol, a bydd yn eich paratoi chi ar gyfer addysg bellach yn y diwydiannau trin gwallt a harddwch lefel 1.
Byddwch yn ymdrin ag Addysg Gymdeithasol Bersonol, sy’n cynnwys unedau megis;
Byddwch hefyd yn astudio amrywiaeth eang o unedau trin gwallt a harddwch, fydd yn cynnwys;
Diddordeb brwd yn y diwydiant Gwallt a Harddwch, cymhelliant a pharodrwydd i ddysgu mewn amgylchedd proffesiynol. Bydd yr ymgeiswyr yn elwa o fod â gradd F i G TGAU neu Lefel Mynediad 2 ESW.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mi wnes i lwyr fwynhau fy nghyfnod yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae’n sicr wedi bod o gymorth i mi gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod. Fe ddechreuais ar y cwrs Harddwch a Gwallt Lefel 2, cyn mynd yn fy mlaen i’r cwrs Harddwch a Therapi Spa Lefel 3. Yna, fe ddychwelais i gwblhau cwrs Uwch Estheteg Lefel 4. Roedd hi’n wych cael dysgu a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn salon go iawn. Un o fy uchafbwyntiau oedd cystadlu mewn Cystadleuaeth WorldSkills a chipio’r ail wobr. Ers gadael, rwyf wedi sefydlu salon fy hun, ble rwyf yn cynnig amrywiaeth o driniaethau. Y flwyddyn nesaf byddaf yn mynd ymlaen i gyflogi technegydd ewinedd a therapydd harddwch i’m helpu i dyfu’r busnes a chynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau i’m cleientiaid.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi chi ar gyfer astudiaeth bellach ar lefel 1 yn y diwydiannau hyn, neu efallai y byddwch yn dewis arbenigo mewn un; trin gwallt, barbro, therapi harddwch neu ewinedd.