Barbro

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2026 — 18 Mehefin 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol ar gyfer dysgwyr sy’n chwilio am yrfa fel barbwr iau cyflogedig/hunangyflogedig. 

Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 Barbro (NOS) ac mae’n cael ei gydnabod gan gymdeithas broffesiynol flaenllaw'r DU (The British Barbering Association - BBA) fel cymhwyster sy’n addas at y diben o baratoi dysgwyr at yrfa fel barbwr iau. 

Mae’n rhaid i bob dysgwr sy’n astudio cwrs llawn amser gwblhau dau gwrs sgiliau hanfodol. Mae hyn yn orfodol i bob myfyriwr a bydd y sesiynau hyn yn rhan o amserlen y cwrs. Mae’n rhaid i bob dysgwr gwblhau’r ddau sgil er mwyn ennill eu prif gymhwyster mewn barbro.

Mae cyfleoedd i ailsefyll TGAU ar gael i ddysgwyr sy’n ennill gradd D mewn Mathemateg neu Saesneg. Ochr yn ochr â’ch cymhwyster barbro gallwch ddewis ailsefyll naill ai cymhwyster Mathemateg neu gymhwyster Saesneg.

Bydd disgwyl ichi gwblhau profiad gwaith am bythefnos mewn salon ym mis Mawrth a threfnu lleoliad 1 diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn gwella eich sgiliau ymarferol ac yn meithrin hyder yn ogystal â sgiliau yn y diwydiant.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i weithio’n effeithiol fel barbwr iau, yn cynnwys:

• Dyletswyddau Derbynfa

• Iechyd a diogelwch

• Ymgynghori â chleientiaid

• Siampwio a chyflyru gwallt

• Toriadau gwallt sylfaenol

• Chwythsychu a gorffen

• Torri blew wyneb i siâp.

• Datblygu a Chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith

Mae’r unedau hyn yn orfodol.

Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau drwy ddewis nifer o unedau arbenigol opsiynol sy’n cynnwys:

• Cynorthwyo â Siafio

• Creu patrymau sylfaenol

• Dyletswyddau Derbynfa

Asesiadau Ymarferol.

2 Arholiad Ysgrifenedig: Siampwio a Chyflyru

Ymgynghori

Mae’r rhestr lawn o’r unedau opsiynol i’w gweld yn y llyfr Cofnod Aseiniadau dysgwyr (manyleb). Mae strwythur y rhaglen hon yn rhoi’r hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddilyn eu llwybr gyrfa pwrpasol fel barbwr iau.

Ar y cwrs hwn byddwch yn gweithio ar ddatblygu eich Sgiliau Hanfodol Cymru (West). Hefyd bydd disgwyl i ddysgwyr hyrwyddo’r Gymraeg drwy weithio at Gymraeg Gwaith.

Chi fydd yn gyfrifol am drefnu eich modelau eich hun ar gyfer aseiniadau ymarferol ac mae’n rhaid ichi wisgo eich PPE llawn a’ch cit barbro ar gyfer pob sesiwn.

Ffïoedd cwrs

Ffi Salon: £30.00

Cyfleusterau

Y dysgwyr fydd yn gyfrifol am drefnu eu modelau eu hun fel cronfa gleientiaid er mwyn cwblhau eu haseiniadau. Ar ddechrau’r cwrs bydd angen i bob dysgwr brynu cit barbro llawn ychwanegol, yn ogystal â’r cyfarpar diogelu personol. Bydd rhagor o wybodaeth i’w chael yn ystod y diwrnodau cyfweld. Bydd hefyd rhestr o git llawn sydd angen ei brynu ar gael. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys siopau dros dro yng Nghampws y Barri, ICAT, Lecwydd a champws canol y ddinas.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2026

Dyddiad gorffen

18 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBCC2F32
L2

Cymhwyster

Barbering

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Mentro i’r byd gwaith. Neu astudio cwrs trin gwallt Lefel 2.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE