Effeithiau Arbennig Theatrig. Gwallt a Cholur y Cyfryngau

L3 Lefel 3
Llawn Amser
1 Medi 2026 — 18 Mehefin 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Diploma Lefel 3 blwyddyn o hyd hwn mewn Colur, Gwallt, Effeithiau Arbennig ac Elfennau Theatraidd yn gymhwyster lefel technegol sydd wedi ei ddylunio i ddysgwyr sy’n anelu at ddechrau gyrfa broffesiynol yn y diwydiant gwallt a cholur.

Mae’r cwrs yn paratoi dysgwyr at gynnig gwasanaethau colur a gwallt o ansawdd uchel ar draws ystod eang o sectorau creadigol, gan gynnwys teledu, theatr, y celfyddydau perfformio, a gwaith ffotograffig. Caiff yr hyfforddiant ei gynnal yng nghyfleusterau arbenigol, pwrpasol y Coleg. Mae hefyd cyfleoedd am leoliadau gwaith, ynghyd ag ymweliadau â’r diwydiant ar draws ystod eang o gwmnïau cynhyrchu a chysylltiadau â’r diwydiant proffesiynol sy’n ymwneud â’r cwrs.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau profiad gwaith ychwanegol y tu hwnt i’w hamserlen coleg, gan roi cymorth iddyn nhw fagu hyder a sgiliau ymarferol yn eu maes astudio.

Bydd angen i’r holl ddysgwyr brynu cit llawn a gwisg cyn dechrau’r cwrs. Yn ogystal â’r prif gymhwyster, mae disgwyl i’r holl ddysgwyr gwblhau cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru (Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif) neu ail-sefyll TGAU, pan fo’n berthnasol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cwrs prysur hwn yn edrych ar y sgiliau creadigol a thechnegol sydd eu hangen i weithio yn y diwydiannau theatraidd, cyfryngau ac effeithiau arbennig. Byddwch yn datblygu eich arbenigedd mewn meysydd fel defnyddio brwshys chwistrellu aer, colur i’r cyfryngau a thechnegau defnyddio colur i guddio, steilio ffasiwn a ffotograffig, a steilio wigiau. Mae hyfforddiant hefyd yn cynnwys gosod capiau moel a darnau prosthetig, yn ogystal â gwaith creu gwallt ffantasi i berfformwyr.

Yn ystod y cwrs cyfan, cewch gyfleoedd i weithio gyda chleientiaid a pherfformwyr go iawn, magu hyder mewn cyfathrebu proffesiynol, gofalu am gleientiaid, a chynnal safonau uchel o iechyd a diogelwch. Mae llawer o’n dysgwyr yn mynd yn syth ymlaen i swyddi yn y diwydiant, neu’n parhau i astudio gyda ni ar ein rhaglen Lefel 4: HNC Artistwaith Colur Technegol ar gyfer Teledu, Ffilm a Theatr.

Mae cyfleoedd i ailsefyll TGAU ar gael i ddysgwyr sy’n cyflawni gradd D mewn Mathemateg neu Saesneg.

*Cost Gwisg a Chit arbenigol gwallt a cholur: £600

Ffïoedd cwrs

Ffi Salon: £30.00

Gofynion mynediad

Cyflawni Diploma Lefel 2 perthnasol (Gwallt / Harddwch) yn llwyddiannus a hefyd geirda boddhaol gan Diwtor y Cwrs yn nodi ymddygiad da, presenoldeb boddhaol a chynnydd. Fel arall, 4 TGAU graddau A i D (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg) a chyfweliad sgiliau ymarferol llwyddiannus. Bydd Dysgu Blaenorol a phrofiad gwaith yn cael eu hystyried hefyd. Bydd gofyn i bob myfyriwr gyflwyno portffolio o dystiolaeth i diwtor y cwrs.

Addysgu ac Asesu

  • Nid oes unrhyw fanylion asesu wedi'u gosod.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2026

Dyddiad gorffen

18 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBCC3F50
L3

Cymhwyster

Theatrical, Special Effects, Hair & Media Make-Up

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rydw i wedi mwynhau fy amser yma yn fawr iawn. Roedd y cwrs hwn yn help mawr i mi ar fy siwrnai ac yn hwb mawr i'm hyder.

Amelie Deere
dysgwr Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau
Oriel
Fideos

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE