Mae’r cwrs llawn amser hwn yn cael ei gyflwyno dros dri diwrnod yr wythnos, yn cynnwys un noson hwyr a dyddiau Sadwrn achlysurol i gynorthwyo dysgu ymarferol. Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at gyflawni cymhwyster NVQ mewn Colur Cosmetig a Thechnoleg Ewinedd.
Mae’r cwrs yn addas i bob dysgwr ac wedi’i anelu’n bennaf at rai 16-19 oed sy’n frwd ynghylch y diwydiant harddwch ac sy’n anelu i fynd yn eu blaen i yrfaoedd fel artistiaid colur proffesiynol a/neu dechnegwyr ewinedd. Mae’n darparu cyfle cyffrous i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant, creadigrwydd, a hyder mewn amgylchedd dysgu cefnogol.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio siapio a lliwio aeliau, lliwio amrannau, a thechnegau tynnu blew’r aeliau. Byddwch hefyd yn dysgu damcaniaeth dulliau rhoi colur proffesiynol, gan greu tri edrychiad craidd: dydd, nos a digwyddiad arbennig. Byddwch yn rhoi Triniaethau Dwylo ac Ewinedd Acrylig, gan ddysgu sut i wneud blaen yr ewin a geliau acrylig.
Ffi Salon: £30.00
Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i hyfforddi yn ein cyfleusterau safon diwydiant, gwych, ochr yn ochr â lleoliadau gwaith mewn salon sy’n darparu profiad gwerthfawr o’r byd go iawn.
3 TGAU Gradd A*-D yn cynnwys Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel arall, wedi cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg yn dangos ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mi wnes i lwyr fwynhau fy nghyfnod yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae’n sicr wedi bod o gymorth i mi gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod. Fe ddechreuais ar y cwrs Harddwch a Gwallt Lefel 2, cyn mynd yn fy mlaen i’r cwrs Harddwch a Therapi Spa Lefel 3. Yna, fe ddychwelais i gwblhau cwrs Uwch Estheteg Lefel 4. Roedd hi’n wych cael dysgu a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn salon go iawn. Un o fy uchafbwyntiau oedd cystadlu mewn Cystadleuaeth WorldSkills a chipio’r ail wobr. Ers gadael, rwyf wedi sefydlu salon fy hun, ble rwyf yn cynnig amrywiaeth o driniaethau. Y flwyddyn nesaf byddaf yn mynd ymlaen i gyflogi technegydd ewinedd a therapydd harddwch i’m helpu i dyfu’r busnes a chynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau i’m cleientiaid.
Gall y cwrs hwn arwain yn uniongyrchol at fod yn berchen ar eich busnes eich hun, gweithio o fewn salon, neu fynd ar drywydd gyrfa fel technegydd ewinedd symudol neu artist colur proffesiynol. Gall dysgwyr hefyd ddewis i barhau â’u datblygiad proffesiynol drwy fynd yn eu blaen i gymwysterau pellach megis Gwallt a Cholur y Cyfryngau neu Drin Gwallt Lefel 2.