Pa un a ydych eisiau datblygu eich gyrfa neu ddilyn eich hobi, dyma'r cwrs i chi. Yn ystod cyflwyniad y cwrs i driniaethau gofal croen i'r wyneb byddwch yn dysgu am fathau o groen ac arferion gofal croen, a bydd gofyn i chi gynnal asesiad gofal croen llawn yn cynnwys ymgynghoriad, gwrtharwyddion, darparu cynnyrch, gofal gartref a chyfleoedd manwerthu. Ceir cyfarwyddyd ar iechyd, diogelwch a hylendid yn yr amgylchedd salon. Cynhelir y cwrs yn ein salon o safon y diwydiant, urbasba – www.urbasba.co.uk ac yma byddwch yn cael eich addysgu gan weithiwyr proffesiynol sy'n arbenigwyr yn eu meysydd.
Ar y cwrs hwn:
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £70.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.