Therapi Harddwch a Sba

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2026 — 16 Gorffennaf 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cymhwyster Harddwch Lefel 1 a 2 VTCT wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sydd eisiau datblygu sgiliau a dechrau gweithio mewn amgylchedd proffesiynol, masnachol. Dim ond colegau gyda mynediad i salon gweithredol llawn, go iawn sydd â’r hawl i gyflwyno’r rhaglen hon - nid dim ond man hyfforddi wedi’i efelychu - ac mae’n cynnwys yr holl elfennau hanfodol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol o fewn diwydiant harddwch. Mae’n ofynnol cwblhau’r rhan lefel 1 o’r cwrs cyn dechrau cymhwyster lefel 2 addas.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel Therapydd Harddwch; Iechyd a Diogelwch Salon, Ymgynghori â Chleientiaid, Presgripsiwn triniaethau’r wyneb, Gosod a thynnu amrannau ffug, Rhoi colur dydd/nod/digwyddiad arbennig, Triniaethau Dwylo a Thraed, Dechrau a chynorthwyo mewn amgylchedd Spa. Unedau dewisol pellach yw cwyro a chodi amrannau. Fel rhan o’r cwrs llawn amser, mae’n ofynnol i fyfyrwyr gael lleoliad gwaith mewn salon neu sba weithredol, brysur i wella eu sgiliau. Bydd dysgwyr hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol Cymru, yn cynnwys Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, gyda rhai sesiynau cyfoethogi ar ddydd Sadwrn a gyda’r nos i gynorthwyo eu cynnydd. Gall dysgwyr sy’n ennill gradd D mewn Saesneg neu Fathemateg gael y cyfle i ailsefyll y TGAU hyn yn ystod y cwrs.

Fel rhan o’ch hyfforddiant cewch gymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills i wella eich profiad dysgu. Mae gennym nifer o fyfyrwyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y maes gwaith hwn ac eleni mae myfyriwr wedi cyrraedd Rownd Derfynol Worldskills Cenedlaethol mewn Therapi Harddwch.

Ffïoedd cwrs

Ffi Salon: £30.00

Gofynion mynediad

3 TGAU Gradd A*-D yn cynnwys Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel arall, wedi cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg yn dangos ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da. 

Cyfleusterau

Bydd dysgwyr yn astudio mewn salon Harddwch masnachol weithredol realistig. Mae Urbasba yn Salon Trin Gwallt a Sba Harddwch â’r holl gyfarpar sy’n darparu lefelau uchel o hyfforddiant a gwasanaethau. Mae nifer o’n dysgwyr yn mynd yn eu blaen i gwblhau cystadlaethau Sgiliau, gan arddangos eu talent ar lwyfan cenedlaethol.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus ac asesiad ymarferol gan gynnwys arholiadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2026

Dyddiad gorffen

16 Gorffennaf 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

20 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBCC2F30
L2

Cymhwyster

Beauty Therapy

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mi wnes i lwyr fwynhau fy nghyfnod yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae’n sicr wedi bod o gymorth i mi gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod. Fe ddechreuais ar y cwrs Harddwch a Gwallt Lefel 2, cyn mynd yn fy mlaen i’r cwrs Harddwch a Therapi Spa Lefel 3. Yna, fe ddychwelais i gwblhau cwrs Uwch Estheteg Lefel 4. Roedd hi’n wych cael dysgu a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn salon go iawn. Un o fy uchafbwyntiau oedd cystadlu mewn Cystadleuaeth WorldSkills a chipio’r ail wobr. Ers gadael, rwyf wedi sefydlu salon fy hun, ble rwyf yn cynnig amrywiaeth o driniaethau. Y flwyddyn nesaf byddaf yn mynd ymlaen i gyflogi technegydd ewinedd a therapydd harddwch i’m helpu i dyfu’r busnes a chynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau i’m cleientiaid.

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch Lefel 2 a 3 ac yn raddedig mewn Uwch Estheteg Lefel 4

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Mae Therapi Harddwch Lefel 2 NVQ yn eich darparu â’r sgiliau a hyder i fynd yn eich blaen i’r lefel nesaf o astudio ar Therapi Harddwch Lefel 3. Mae hyn yn ddibynnol ar lwyddo ar Therapi Harddwch Lefel 2 a geirda addas gan y tiwtor. Gall dysgwyr hefyd fynd yn eu blaen i Golur Theatrig Lefel 3 neu Drin Gwallt Lefel 2.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE