Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster uwch sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant ac sydd wedi’i ddylunio i ddatblygu’r sgiliau cynhwysfawr, y wybodaeth a’r safonau proffesiynol y mae angen i therapydd harddwch â chymwysterau llawn feddu arnynt. Trwy gydol y cymhwyster bydd dysgwyr yn ennill profiad ymarferol gan ddefnyddio ein cynhyrchion, ein cyfarpar a’n technegau proffesiynol mewn amgylchedd clinig go iawn.
Mae’r cymhwyster yn rhoi’r arbenigedd ymarferol, y ddealltwriaeth ddamcaniaethol a’r hyder proffesiynol sydd eu hangen ar ddysgwyr i ragori yn y diwydiant therapi harddwch.
Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais cadarn ar gymhwysedd ymarferol, sgiliau ymgynghori, anatomeg a ffisioleg a thriniaethau effeithiol a diogel i gleientiaid. Yr unedau dan sylw: Tylino’r corff, electrothermi’r wyneb a’r corff, meicrodermabrasiwn, tylino cerrig poeth, lliw haul ac estyniadau amrannau.
Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau, arholiadau ar unedau, arddangosiadau ymarferol. Mae’r holl ddysgwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau gweithio’n hwyr a sesiynau dydd Sadwrn yn eu tro a hynny’n rhan o’u haddysg sy’n ymwneud â gwaith. Mae Sgiliau Hanfodol yn rhan orfodol o’u hastudiaeth
Ffi Salon: £30.00
Cymhwyster Therapi Harddwch Lefel 1 llawn – Angen tystiolaeth ardystio. Cyflawniad llwyddiannus mewn Diploma Lefel 2 perthnasol (Harddwch). Cyfweliad a geirda boddhaol gan y Tiwtor Cwrs yn nodi ymddygiad da, presenoldeb a chynnydd boddhaol. Ystyrir dysgu blaenorol a phrofiad gwaith hefyd.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”
Mae cyflawniad llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i fentro i’r byd gwaith fel therapyddion cymwys mewn salonau, sbas, clinigau, llongau mordaith a chanolfannau llesiant. Gall ddysgwyr hefyd symud i lefel 4 estheteg Anfeddygol a datblygu eu sgiliau ymhellach yn y maes triniaethau croen arbenigol.