Trin Gwallt

L1 Lefel 1
Llawn Amser
1 Medi 2026 — 25 Mehefin 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed heb brofiad. Bydd yn eich darparu â’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol wrth baratoi am yrfa yn y diwydiant trin gwallt.

Yn ystod y cymhwyster hwn, byddwch yn cymryd cyfrifoldeb i leihau risgiau i iechyd a diogelwch, yn paratoi a chynnal yr ardal waith ac yn cyfrannu at ddatblygu cysylltiadau gwaith effeithiol.

Cewch eich goruchwylio gan staff technegol a’ch cymhwysedd fydd yn cael ei asesu.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’n cynnwys: Tystysgrif Lefel 1 NVQ mewn Trin Gwallt a Barbro. Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau’r dysgwr yn y pethau canlynol:

  • Siampwio a chyflyru
  • Chwythsychu
  • Tynnu mathau amrywiol o liw
  • Plethu a throi

Yn ogystal â thystysgrif lefel 1 mewn gofal i gwsmeriaid. Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif. Bydd unrhyw ddysgwr a enillodd TGAU gradd D yn cael y cyfle i ailsefyll

Gofynion mynediad

Cyfweliad yn hanfodol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2026

Dyddiad gorffen

25 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBCC1F31
L1

Cymhwyster

Hairdressing

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Mae’r rhaglen hon wedi ei strwythuro i roi’r hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fynd ymlaen i astudio cymhwyster Lefel 2 mewn Gwallt a/neu Harddwch.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE