Enw'r cwrs hwn yn flaenorol oedd cymhwyster Trin Oeryddion yn Ddiogel (2078), a bwriad y cwrs Rheoliadau ODS a Nwy wedi ei Fflworineiddio (2079-11 Categori 1) hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i’r ymgeisydd weithio ar osod, gwasanaethu, cynnal a chadw, trwsio a chwilio am ollyngiadau mewn cyfarpar oeri, awyru a phympiau gwres sy’n cynnwys oeryddion sy’n naill ai nwyon wedi eu Fflworineiddio (F) neu Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn (ODS).
Mae’r cymhwyster hwn yn gysylltiedig â’r gofynion cyfreithiol ac mae’n dangos sut i ynysu, atal a lleihau nwyon wedi’u ffwlorineiddio, sydd wedi’u cynnwys yn y protocol Kyoto. Mae’n ofyniad cyfreithiol i unrhyw un sy’n ymwneud ag oeryddion Nwyon wedi eu Fflworineiddio fod â’r cymhwyster 2079 perthnasol neu gymhwyster cyfwerth. Sylwch, mae’r cwrs Nwyon wedi’u Fflworineiddio yn gwrs heriol ac nid oes sicrwydd y byddwch yn llwyddo.
Byddem yn argymell eich bod hefyd yn ystyried ymrestru ar gwrs Rheweiddio Hydrocarbon, Awyru a Systemau Pwmp Gwres oherwydd mae’n darparu gwybodaeth a sgiliau ategol gwerthfawr.
Bydd ymgeiswyr yn magu sgiliau, gwybodaeth a thechnegau digonol i wneud y pethau canlynol:
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn gyflogedig yn y diwydiant fel peiriannydd rheweiddio neu gyfwerth.
Mae’r asesu’n digwydd drwy gyfrwng Arholiad Ar-lein ac Asesiad Ymarferol.
Ffi Arholiad : £85.61
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £907.96
4 TGAU Gradd A* i D gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith a chyfweliad boddhaol neu brofiad gwaith perthnasol a diweddar. Rhaid i chi fod wedi'ch cyflogi'n llawn gan Gyflogwr Oeri neu Aerdymheru cymwys, gyda phrofiad o sodro, gwefru ac adfer oergelloedd. Rhaid i gynrychiolwyr fod wedi'u cyflogi yn y diwydiant fel peirianyddion oeri neu gyfatebol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.