Cyfle i ddysgwyr o ysgolion cyfrwng y Gymraeg ailsefyll yr arholiad TGAU Cymraeg Iaith.
Uned 1 - Asesiad Di-arholiad Llafar 30%
Tasg 1 - Cyflwyniad Unigol Ar Sail Ymchwil
Un cyflwyniad unigol yn seiliedig ar ymchwil, a all gynnwys ymatebion i gwestiynau ac adborth, yn seiliedig ar themâu wedi’u gosod gan CBAC. Disgwylir i ymgeiswyr gymryd rhan mewn gweithgaredd llafar fel unigolion gan gyflwyno gwybodaeth ar unrhyw agwedd neu agweddau sy’n berthnasol i un o’r themâu canlynol: 1. Cymru 2. Hamdden 3. Y Byd Gwaith 4. Y Byd Gwyddoniaeth/Technoleg 5. Dinasyddiaeth
Tasg 2 - Ymateb a Rhyngweithio
Un drafodaeth grŵp ynghylch ysgogiad ysgrifenedig a/neu weledol a ddarperir gan CBAC i sbarduno trafodaeth. Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau llafar gydag eraill ar gyfer mynegi ac ategu barn. Mae’r gweithgaredd hwn yn rhoi’r cyfle i ymgeiswyr gyfleu eu profiadau personol a/neu berswadio eraill.
Uned 2 - Asesiad Allanol - Disgrifiad, Naratif ac Egluro 35%
Adran A Darllen
Yn yr adran hon, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar eu dealltwriaeth am o leiaf un testun sy’n disgrifio, un testun naratif ac un testun egluro gyda chysylltiad thematig, a fydd yn cael eu hasesu yn ôl ystod o gwestiynau â strwythur. Bydd amrywiaeth o destunau di-dor a chryno, yn gofyn am ddulliau ac ymatebion darllen gwahanol. Gallai’r testunau a ddefnyddir ar gyfer asesiad yn yr adran hon gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i hunangofiant, bywgraffiad, areithiau, adroddiadau newyddion, ysgrifennu wrth deithio, erthyglau newyddiadurol, adolygiadau, a detholiadau o nofelau a straeon byr, ynghyd â thestunau cryno â chysylltiad thematig fel hysbysebion, diagramau, rhestrau, graffiau, amserlenni a thablau, sy’n cynnwys iaith ysgrifenedig. Ychydig o ddarllen fydd ei angen ar rai testunau, ond bydd angen darllen mwy trylwyr ar gyfer eraill a byddant yn fwy heriol. Bydd ymatebion i’r cwestiynau yn amrywio o rai byr i rai estynedig. Bydd rhai cwestiynau’n fyr (e.e. cwestiynau aml ddewis, ymatebion byr, cloze, dilyniannau). Bydd eraill yn gofyn am atebion hirach (e.e. aralleirio, dangos dealltwriaeth o’r cyd-destun, dadansoddi/casglu gwybodaeth/dod i gasgliad). Bydd yr adran hon hefyd yn cynnwys tasg olygu sy’n canolbwyntio ar ddeall testunau byr ar lefel gair, brawddeg a thestun. (2.5% o’r cymhwyster).
Adran B Ysgrifennu
Yn yr adran hon, bydd ymgeiswyr yn cwblhau un dasg ysgrifennu allan o ddwy, a fydd naill ai’n ddisgrifiad, naratif neu’n eglurhad. Bydd gofyn i ymgeiswyr ysgrifennu un darn estynedig, gan ddefnyddio’r deunyddiau darllen yn adran A lle bo hynny’n briodol. Gallai hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i fywgraffiad, cofiant, ysgrifennu am deithio/bwyd, dyddiadur, stori a thraethodau personol. Bydd yr adran hon hefyd yn cynnwys un dasg brawf ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu’n gywir. Yn y dasg fer hon, bydd angen i ymgeiswyr brawf ddarllen a chywiro testun cryno (2.5% o’r cymhwyster).
Uned 3 Asesiad Allanol - Trafod, Perswâd a Chyfarwyddo
Adran A Darllen
Yn yr adran hon, caiff ymgeiswyr eu hasesu ar eu dealltwriaeth am o leiaf un testun drafodaeth, un darn perswâd ac un cyfarwyddol sydd â chysylltiad thematig, gan gynnwys testunau di-dor a chryno, a fydd yn cael eu hasesu drwy amrywiaeth o gwestiynau â strwythur. Bydd amrywiaeth o destunau di-dor a chryno, yn gofyn am ddulliau ac ymatebion darllen gwahanol. Bydd y testunau a ddefnyddir ar gyfer yr asesiad hwn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i lythyrau, e-byst, taflenni ffeithiau, pamffledi, erthyglau, adroddiadau, blogiau, hysbysiadau, canllawiau, testunau digidol ac aml-foddol, ynghyd â thestunau di-dor â chysylltiad thematig fel hysbysebion, diagramau, rhestrau, graffiau, amserlenni a thablau, sy’n cynnwys iaith ysgrifenedig. Ychydig o ddarllen fydd ei angen ar rai testunau, ond bydd angen darllen mwy trylwyr ar gyfer eraill a byddant yn fwy heriol. Bydd ymatebion i’r cwestiynau yn amrywio o rai byr i rai estynedig. Bydd rhai cwestiynau’n fyr (e.e. cwestiynau aml ddewis, ymatebion byr, cloze, dilyniannau). Bydd eraill yn gofyn am atebion hirach (e.e. aralleirio, dangos dealltwriaeth o’r cyd-destun, dadansoddi/casglu gwybodaeth/dod i gasgliad)
Adran B Ysgrifennu
Bydd yr adran hon yn asesu ysgrifennu’r ymgeisydd drwy un dasg ysgrifennu ddadleuol orfodol ac un dasg ysgrifennu dwyn perswâd orfodol. Bydd angen i ymgeiswyr ysgrifennu gan ddangos ymwybyddiaeth o’r gynulleidfa a phwrpas, gan ddefnyddio’r deunyddiau darllen yn adran A lle bo hynny’n briodol, ac addasu eu harddull i gyd-destunau bywyd go iawn, er enghraifft, llythyrau, erthyglau, adolygiadau, areithiau ac yn y blaen. Bydd hanner marciau’r adran hon yn cael eu dyfarnu am gyfathrebu a threfn (ystyr, pwrpas, darllenwyr a strwythur) a’r hanner arall am ysgrifennu’n fanwl gywir (iaith, gramadeg, atalnodi a sillafu).
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Hwyluso’r dilyniant i gwrs Lefel 3 lle mae angen gradd C neu uwch mewn Cymraeg Iaith neu Saesneg Iaith.