Mae’r cwrs Eidaleg TGAU hwn yn gwrs ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu gwell dealltwriaeth o gymdeithas, iaith a diwylliant yr Eidal. Mae’n ceisio datblygu cymhwyster cyffredinol, sgiliau cyfathrebu a dealltwriaeth ramadegol yn Eidaleg, ac yn ffordd o baratoi i unrhyw un sydd eisiau parhau gyda’u hastudiaethau ar Safon Uwch. Fodd bynnag, yn bennaf oll, mae’r cwrs ar gyfer unrhyw un sy'n hoffi’r Eidal ac Eidaleg.
Er bod y cwrs yn addas i ddechreuwyr, argymhellir bod gennych chi rywfaint o ddealltwriaeth o Eidaleg.
Mae’r maes llafur yn cynnwys pedwar papur wedi eu rhannu yn ddwy lefel - Sylfaen (cyfatebol i raddau 1-5) ac Uwch (4-9). Mae’r graddau yn seiliedig at TGAU yn Lloegr, gan na chynigir TGAU Eidaleg gan Fwrdd Arholi Cymru.
Y papurau yw:
Papur 1 - Gwrando (25%), Arholiad ysgrifenedig.
Papur 2 - Siarad (25%), Cyflawnir yn fewnol ac asesir yn allanol.
Papur 3 - Darllen (25%), Arholiad ysgrifenedig.
Papur 4 - Ysgrifennu (25%), Arholiad ysgrifenedig.
Mae’r papurau’n trafod y meysydd pynciau canlynol:
Contatti gan Checketts and Freeth a gyhoeddir gan Hodder and Stoughton.
Mae yna fynediad am ddim i gyfrifiaduron yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu.
Ffi Arholiad : £35.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £380.00
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion. Dylai myfyrwyr llawn amser fod ag isafswm o 4 TGAU Gradd D.
17:45 - 20:45 Dydd Mercher
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.