Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu er mwyn adeiladu ar ddiddordeb yn y bydysawd, ac i gyflwyno’r pwnc seryddiaeth. Bydd y cwrs yn galluogi myfyrwyr i ddeall ein safle yn y bydysawd, symudiadau’r planedau a’r sêr, y cylchredau yn awyr y nos a’r dydd, a’r ffordd rydym yn defnyddio technoleg i arsylwi’r gofod a rhyngweithio â’r gofod. Mae’r cwrs wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb yn yr awyr uwch ein pennau. Mae dau arholiad allanol sy’n cynnwys cymysgedd o gwestiynau byr ac estynedig yn seiliedig ar seryddiaeth llygad noeth a thelesgopig.
Uned ar seryddiaeth llygad noeth ydy’r uned gyntaf. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am ein planed, disg y lleuad, a system y Ddaear – lleuad – haul. Byddwch chi hefyd yn astudio modelau cynnar o gysawd yr haul a symudiad planedau.
Uned ar seryddiaeth delesgopig ydy’r ail uned. Bydd hon yn cynnwys gwybodaeth am ein lleuad, cysawd yr haul, esblygiad sêr, ffurfio cysodau a chosmoleg.
Mae arholiad allanol 105-munud ar gyfer pob uned.
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £380.00
Ffi Arholiad : £35.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gallai’ch dilyniant chi fod ymlaen i:
· Safon Uwch TAG, er enghraifft mewn Ffiseg.
· Cymhwyster galwedigaethol lefel 3 mewn gwyddoniaeth, er enghraifft BTEC Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
· Cyflogaeth, er enghraifft mewn diwydiant gwyddonol lle allai prentisiaeth fod ar gael.