Sylfeini Gweithio o fewn Lletygarwch a Manwerthu

EL3 Lefel Mynediad 3
Llawn Amser
1 Medi 2026 — 22 Mehefin 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae hwn yn gwrs rhagarweiniol sydd wedi’i fwriadu ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol ac sy’n dymuno mynd i mewn i’r Diwydiant Lletygarwch a Manwerthu.  Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu sgiliau perthnasol yn ogystal â hyder, cydnerthedd, a dealltwriaeth o hunanreolaeth sy'n berthnasol i weithio yn y diwydiant.  

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o fodiwlau theori ac ymarferol fydd yn cynnig golwg graff ar sut beth yw gweithio yn y diwydiant lletygarwch a manwerthu. Bydd hyn yn golygu datblygu sgiliau coginio a Barista yn ogystal â sgiliau sy’n gysylltiedig gyda blaen tŷ a gwasanaeth cwsmer. 


Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol. 

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU ar radd D - F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2026

Dyddiad gorffen

22 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

FLCCFHR01
EL3

Cymhwyster

Foundations of working in Hospitality and Retail

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

78,000

Ar hyn o bryd, mae dros 78,000 o swyddi yn y Sector Lletygarwch ac Arlwyo, a rhagwelir y bydd hyn yn tyfu 6.3% erbyn 2025. (EMSI 2021).

Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gyda Theilyngdod yn gallu symud ymlaen i gwrs Lletygarwch y flwyddyn ganlynol.  

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE