Cyflwyniad i Weldio Metel Anadweithiol (MIG)

L1 Lefel 1
Rhan Amser
3 Medi 2026 — 4 Chwefror 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i alluogi ymgeiswyr i arddangos sgiliau weldio a welir yn y diwydiant fel arfer a gwybodaeth sylfaenol gysylltiedig hyd at lefel a fydd yn eu galluogi i gwblhau uniadau wedi’u weldio mewn sefyllaoedd weldio syml.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn dysgu i gynhyrchu:

  • weldiad ffiled gorgyffwrdd yn y safle llorweddol/fertigol PB
  • gleiniau ar blât yn y safle gwastad PA
  • weldiad ffiled siâp T yn y safle gwastad PA
  • weldiad cornel yn y safle gwastad PA

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £121.53

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £338.32

Gofynion mynediad

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Mae diddordeb brwd mewn prosesau weldio metel anadweithiol a pharodrwydd i ddysgu’n hanfodol. Bydd angen Esgidiau Diogelwch ac Oferôls ar gyfer y sesiynau gweithdy. Bydd pob CDP hanfodol arall yn cael ei ddarparu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2026

Dyddiad gorffen

4 Chwefror 2027

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MMCC2P01AA
L1

Cymhwyster

Introduction to Metal Inert Welding (MIG)

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall ymgeiswyr symud ymlaen i fyd gwaith neu at gymwysterau Lefel 2.

Gall y Dyfarniadau a’r Tystysgrifau y gallwch ennill drwy gwblhau ein cymwysterau arwain at yrfa yn y sector Gweithgynhyrchu Uwch a’r sector Peirianneg.

Gall arwain at nifer o swyddi gwahanol, yn cynnwys:

  • Gosodwr Weldio
  • Gosodwr Peipiau
  • Gweithredwr Cynnal a Chadw Weldio
  • Gweithiwr Llenfetel
  • Gwneuthurwr Platiwr
  • Weldiwr

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE