Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur

L2 Lefel 2
Rhan Amser
15 Ionawr 2025 — 4 Mehefin 2025
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd yr uned hon yn cyfarparu myfyrwyr â'r ddealltwriaeth ac egwyddorion sylfaenol o amgylcheddau dylunio 2D o ran caledwedd, meddalwedd ac amgylchoedd ffisegol. Bydd yn archwilio cyfansoddiad cyffredinol system CAD a materion iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig ag arferion gweithio diogel.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

1.1 - Adnabod caledwedd sydd ei angen ar gyfer system CAD 2D

1.2 - Adnabod meddalwedd sydd ei angen ar gyfer system CAD 2D

1.3 - Rheoli ffeiliau gan gynnwys mathau o ffeiliau

1.4 - Dilyn deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifiaduron

1.5 - Disgrifio arferion gweithio diogel

1.6 - Disgrifio sut i atal anafiadau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r defnydd o gyfrifiadur am gyfn

Addysgu ac Asesu

Gwaith Aseiniad Ymarferol ac Arholiadau Ar-lein.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £114.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr fod â gwir ddiddordeb mewn cynhyrchu lluniadau â chymorth cyfrifiadur, gwybodaeth sylfaenol am systemau CAD a diddordeb mewn peirianneg/lluniadau adeiladu yn seiliedig ar ddylunio. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

15 Ionawr 2025

Dyddiad gorffen

4 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

MMCR2P00
L2

Cymhwyster

City & Guilds Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur 2D

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Roeddwn i wedi astudio peirianneg fecanyddol a thrydanol o’r blaen ac, ar ôl ychydig o amser i ffwrdd yn y cyfamser, roedd y swydd gweithredwr proses yn teimlo fel dewis da i mi. Mae’r tiwtoriaid yn dda iawn. Mae’r cyfleusterau yma hefyd yn dda iawn ac rwy’n meddwl bod gan y Coleg bopeth sydd ei angen arnoch.

Jay Johnstone
Cyn-brentis Gweithrediadau Proses Lefel 2. Prentis Cyfredol Gweithrediadau Proses Lefel 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

75,000

Ar hyn o bryd, mae dros 75,000 o bobl yn gweithio ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn Peirianneg a Pheirianneg Electronig. Y cyflog cyfartalog y rheini sy’n gweithio yn y diwydiant yw £33,000. (Lightcast, 2022).

Gallai’r cymwysterau arwain at yrfa fel dyluniwr CAD. Gallai hefyd eich helpu i symud ymlaen i gyrsiau tebyg ym maes Addysg Uwch.

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ