Chwaraeon

L1 Lefel 1
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster BTEC Lefel 1 hwn wedi’i gynllunio i helpu dysgwyr i ddeall y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio o fewn gwahanol sectorau o’r diwydiant Chwaraeon a Hamdden.  Bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden egnïol, gan gynnwys chwaraeon maes a sesiynau yn y gampfa.

Cewch gyfle i gynrychioli’r coleg drwy ymuno â’n hacademïau, gan gynnwys pêl-droed, rygbi, pêl-fasged a phêl-rwyd.

Mae cyfleusterau chwaraeon campws chwaraeon rhyngwladol Caerdydd ar gael i ni. Mae'r rhain yn cynnwys campfa llawn offer, cae 3G a chaeau awyr agored eraill. Rydym hefyd yn gallu defnyddio’r cyfleusterau ar draws y ffordd yn Nhŷ Chwaraeon Dinas Caerdydd.

Bydd gofyn i chi brynu esgidiau pêl-droed wedi’u mowldio cyn dechrau ar y cwrs hwn, er mwyn gallu cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol, sy’n rhan allweddol o’r cwrs. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gyda'r costau hyn. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Gallai unedau’r Diploma Lefel 1 gynnwys:

  • Sut mae ymarfer yn effeithio ar y corff
  • Hyfforddiant ar gyfer ffitrwydd
  • Cymryd rhan mewn chwaraeon
  • Cynorthwyo mewn gweithgaredd chwaraeon
  • Gweithio gydag eraill
  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun cynnydd personol
  • Sgiliau hyfforddi

Gofynion mynediad

3 TGAU Graddau A* - E neu Gyfwerth

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

SPCC1F01
L1

Cymhwyster

Pearson BTEC Diploma Rhagarweiniol Lefel 1 mewn Chwaraeon

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

8,000

Mae gan Alwedigaethau Chwaraeon weithlu cynyddol o dros 8,000 gydag amcangyfrif o 1,600 o swyddi ychwanegol erbyn 2026 ym Mhrifddinas Ranbarth Caerdydd. (Lightcast, 2022).

Mae myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs hwn yn aml yn symud ymlaen i’r diploma Lefel 2 mewn Chwaraeon. Llwybr arall y bydd ein myfyrwyr yn ei ddewis yw’r cwrs Lefel 2 Iechyd, Ffitrwydd a Llesiant ar gyfer y rhai sydd eisiau dilyn llwybr ychydig yn wahanol ac sydd â diddordeb mewn hyfforddi mewn campfa a hyfforddiant personol. Gall symud ymlaen i astudiaethau Chwaraeon Lefel 3 arwain at astudio cyrsiau chwaraeon yn y brifysgol, gan gynnwys adsefydlu chwaraeon a thylino, a chyfleoedd pellach yn y sector chwaraeon - gan gynnwys y sector hyfforddi. 

Lleoliadau

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd,
Heol Lecwydd,
Caerdydd,
CF11 8AZ