Tecstilau

L2 Lefel 2
Rhan Amser
6 Hydref 2025 — 15 Rhagfyr 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Nod y cwrs yw datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o dechnegau tecstilau creadigol y gallwch eu defnyddio yn eich Celf Tecstilau eich hun.

Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu i ddefnyddio detholiad o brosesau tecstilau, yn cael gwybodaeth a gallu technegol, ac yn magu hyder wrth ddefnyddio offer arbenigol. Byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso eich sgiliau newydd i’ch archwiliad a’ch gwaith arbrofi eich hun gyda Chelf Tecstilau cyfryngau cymysg.

Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn dysgu am hanes Celf Tecstilau ac Artistiaid Tecstilau sy’n gweithio heddiw, yn datblygu ymarfer llyfr braslunio sy’n cynnwys darlunio, yn creu portffolio o samplau tecstilau ac yn creu canlyniad Celf Tecstilau terfynol ar gyfer eich prosiect, sy’n ymgorffori un neu fwy o'r technegau yr ydych wedi eu dysgu. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r technegau tecstilau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn yn cynnwys: brodwaith â llaw, gwehyddu a brodwaith peiriant llawrydd.

Yn ogystal, byddwch yn dysgu am hanes Celf Tecstilau, ac yn archwilio gwaith Artistiaid Tecstilau cyfoes.

Cyfleusterau

Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro weithdai Celf a Dylunio a chyfleusterau cyfrifiadur helaeth. Lleolir y cwrs yn yr ystafell Ffasiwn a Thecstilau sydd wedi’i chyfarparu’n llawn gyda'r offer tecstilau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y cwrs hwn. Mae lleoedd arbenigol eraill yn cynnwys Celf Gain, Serameg a Gwneud Printiau.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £20.00

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £65.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

6 Hydref 2025

Dyddiad gorffen

15 Rhagfyr 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CDCC2P06
L2

Cymhwyster

Textiles

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Dros fy nwy flynedd yn Coleg Caerdydd a’r Fro, mae fy nhiwtoriaid wedi rhoi adborth adeiladol i mi sydd wedi fy ngalluogi i dyfu yn fy siwrnai greadigol.

Constance Leeson
Myfyriwr Dylunio Ffasiwn

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Gallai dysgwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus edrych ar archwilio ein cyrsiau llawn-amser a rhan-amser eraill mewn Celf a Dylunio, Dylunio Ffasiwn, Argraffu 3D, Modelu Digidol a Chynhyrchu a mwy...

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE