Celf ar gyfer Lles - archwiliad creadigol ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar

L1 Lefel 1
Rhan Amser
12 Mawrth 2026 — 4 Mehefin 2026
Campws y Barri
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Rhyddhewch fuddion creadigrwydd gyda’n cwrs 10 wythnos Celf ar gyfer Lles. Mae’r rhaglen strwythuredig hon yn cyflwyno technegau hygyrch—tynnu lluniau, paentio, gwaith clai, creu gemwaith a dylunio arwyneb - gan hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar a rhyddhau straen ar yr un pryd. Wedi’u dylunio ar gyfer dechreuwyr, mae pob sesiwn yn meithrin hyder a gwydnwch creadigol, gan gyd-fynd â sgiliau Celf a Dylunio UAL Lefel 1. Mwynhewch arweiniad arbenigol mewn amgylchedd cefnogol, datblygwch sgiliau celf ymarferol, a chrëwch ddarnau unigryw â llaw. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol— dim ond chwilfrydedd a dyhead i ymchwilio. Buddsoddwch yn eich lles drwy gelf a chewch adael gyda hyder creadigol, yn ogystal ag ymdeimlad newydd o heddwch

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn ymchwilio i greu marciau, lliw ac emosiwn, gwaith clai cyffyrddol, dylunio gemwaith syml, a thechnegau aml-gyfrwng. Mae'r cwrs yn dod i ben gyda phrosiect personol, sy’n eich galluogi i greu darnau unigryw â llaw, gan ddatblygu gwydnwch creadigol ac ymdeimlad newydd o les ar yr un pryd

Cyfleusterau

  • Defnydd o ddeunyddiau celf arbenigol gan gynnwys paent, pastelau ac adnoddau aml-gyfrwng o safon uchel
  • Ystod eang o gyfryngau celf i roi cynnig arnynt: tynnu lluniau, paentio, clai, creu gemwaith, a dylunio arwyneb
  • Adnoddau ac offer proffesiynol ar gyfer pyrograffeg a thechnegau addurniadol, mynediad at stiwdio cerameg wedi’i chyfarparu’n llawn ar gyfer gwaith clai ymarferol
  • Amgylchedd cefnogol, creadigol, wedi’i ddylunio i annog ymlacio a hunan fynegiant

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £55.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

12 Mawrth 2026

Dyddiad gorffen

4 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CDCR1P07
L1

Cymhwyster

Art for Wellbeing - Creative exploration for mindfulness

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Cyrsiau celf a dylunio amser llawn yn y coleg

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ